Ewch i’r prif gynnwys
E. James

Yr Athro E. James

Athro Emeritws

Ysgol y Gymraeg

cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Graddiais yn y Gymraeg yn Aberystwyth yn 1972. Ar ôl cyfnod yn Swyddog Ymchwil yn Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth ac yn Ddirprwy Warden Neuadd Pantycelyn, treuliais ddwy flynedd ar bymtheg yn Gyfarwyddwr Gwasg Efengylaidd Cymru. Fe'm penodwyd yn Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg Ddiweddar yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 1994, lle yr oeddwn nes ymddeol yn Athro ac yn gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America.

Ymchwil

Rwyf wedi cyhoeddi'n helaeth ar wahanol agweddau ar lên a diwylliant Cymru yn y cyfnod modern. Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio'n arbennig ar feysydd yn ymwneud â chrefydd, hunaniaeth, diwylliant gwerin, beirniadaeth destunol a hanes y llyfr, gyda sylw arbennig i'r emyn, y faled a llên efengylaidd. Rwy'n Olygydd Gwefan Ann Griffiths a Gwefan Baledi Cymru. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi'n helaeth ar ddiwylliant Cymraeg de-ddwyrain Cymru. Yn fy ngwaith fel cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America rwy'n ymddiddori'n arbennig o ran ymchwil yn y mudiad i ddiddymu caethwasiaeth ac yn y Cymry yn y Wladfa.

Addysgu

Dros y blynyddoedd dysgais ar rychwant o fodiwlau yn ymwneud â diwylliant, llenyddiaeth a chrefydd Cymru yn y cyfnod modern (o'r unfed ganrif ar bymtheg hyd heddiw), a hynny ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.

Bywgraffiad

Anrhydeddau a dyfarniadau

Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd Cymdeithas Emynau Cymru, Aelod o Orsedd y Beirdd, Aelod o'r Academi Gymreig, Aelod o'r Comisiwn Baledi Rhyngwladol, Cymrawd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Caergrawnt (2004), Ysgolor Fulbright a Chymrawd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Harvard (2012), Cymrawd Sefydliad Gilder Lehrman ar gyfer Astudio Hanes America, Efrog Newydd (2012-13)

Pwyllgorau ac adolygu

Grŵp Strategaeth SCOLAR