Ewch i’r prif gynnwys
Scott MacAulay

Mr Scott MacAulay

Myfyriwr ymchwil

Ysgol y Biowyddorau

Trosolwyg

Dechreuais fy ngyrfa academaidd ym Mhrifysgol Glasgow, lle graddiais gyda BSc (Anrh) 2:1 mewn bioleg Môr a Dŵr Croyw yn 2016, lle canolbwyntiwyd fy niddordebau ar famaliaid morol ac ecoleg afiechydon. Dilynais fy niddordeb mewn clefyd dyfrol ymhellach pan ymgymerais â'r radd Meistr Pathobioleg Ddyfrol ym Mhrifysgol Stirling. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliais brosiect gyda'r Athro Alexandra Adams a Dr Rowena Hoare mewn cydweithrediad â Dawnfresh Farming Scotland ac AquaGen. Ffocws y prosiect oedd ymchwilio i wrthsefyll clefydau mewn Brithyll Enfys (Oncorhynchus mykiss) a'r sgil-effeithiau posibl.

Rwyf bellach yn ail flwyddyn fy PhD ym Mhrifysgol Caerdydd o dan yr Athro Jo Cable a Dr Amy Ellison (Prifysgol Bangor), yn edrych ar oomycetau dyfrol a dulliau atal posibl, wrth weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd fel partner CASE. Mae fy PhD yn rhan o'r BBSRC GW4+ SWBio DTP, gan gyfrannu at faes dyframaeth a diogelwch bwyd.

Cyhoeddiad

2023

2022

Erthyglau

Ymchwil

Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar ffactorau sy'n dylanwadu ar heintiau parasitig mewn pysgod a systemau dŵr croyw. Mae hyn yn cynnwys cwmpas y diagnosis ar gyfer y sytemau hyn, yn ogystal â straenwyr perthnasol ac sydd ar ddod a allai effeithio ar ddeinameg host-parasit.

Gosodiad

TECHNOLEGAU NEWYDD AR GYFER CANFOD A MONITRO PATHOGENAU PYSGOD YN GYNNAR

Goruchwylwyr

Joanne Cable

Joanne Cable

Pennaeth yr Is-adran Organisms and Environment, Masters Lead