Mr Guy Linley-Adams
Darlithydd yn y Gyfraith
Bywgraffiad
Ar ôl blynyddoedd lawer gyda chyrff anllywodraethol amgylcheddol a chadwraeth a chwpl o flynyddoedd yn cyflwyno ar deledu'r BBC a rhaglen Costing the Earth ar BBC Radio 4, cymhwysais fel cyfreithiwr a deuthum yn Bennaeth Cyfreithiol Cymdeithas Cadwraeth Pysgotwyr (Fish Legal). Ar ôl deuddeng mlynedd mewn practis preifat fel unig ymarferydd, yn arbenigo mewn cyfraith amgylcheddol a rhyddid gwybodaeth, rwyf bellach yn gyfreithiwr mewnol ar gyfer WildFish, yn cynghori ar faterion cynllunio, cyfraith bywyd gwyllt a chadwraeth, cyfraith gwlad a chamau statudol yn erbyn cwmnïau dŵr, llygryddion, materion rhyddid gwybodaeth a materion eraill. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn mynediad at wybodaeth amgylcheddol ac atgyfeiriadau at Gomisiynwyr Gwybodaeth y DU a'r Alban.
Yng Nghaerdydd, rwy'n rhedeg Prosiect Hinsawdd ac Amgylchedd pro bono yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Aelodaethau proffesiynol
Wedi'i awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (524741) a Chymdeithas y Gyfraith yr Alban (30663)
Aelod o Gymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y Deyrnas Unedig