Trosolwyg
Jess yw Rheolwr Caerdydd Creadigol. Mae'n arwain ar ddarparu'r rhwydwaith a'i weithgareddau o ddydd i ddydd, yn ogystal â gosod y weledigaeth strategol ar gyfer yr hyn y bydd Caerdydd Creadigol yn ei wneud i gefnogi datblygiad dinas gysylltiedig, gydweithredol a chreadigol. Ar ôl ymuno â'r tîm ym mis Medi 2022, mae'n arbennig o awyddus i archwilio'r ffyrdd y gall y sefydliad feithrin cymunedau creadigol y ddinas i fanteisio ar gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ac adeiladu gwytnwch wrth iddynt ddod allan o’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â Covid-19.
Ymchwil
Jess is primarily interested in cultural policy development and advocacy, the creative workforce, creative place-making, sector mapping and skills and supportive interventions for the creative and cultural industries.
Addysgu
Able to lead guest lectures, participate in panel discussions or facilitate seminars on creative and cultural industries related topics including: cultural policy and advocacy, network development, creative placemaking and creative business support, amongst others.
Bywgraffiad
Yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, mae Jess wedi treulio'r 15+ mlynedd diwethaf yn gweithio yn y sector diwylliant a threftadaeth a'r economi greadigol rhwng Cymru a Llundain. Mae hyn wedi cynnwys rolau gyda’r Llyfrgell Brydeinig, Central School of Ballet, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Gŵyl y Gelli a Phrifysgol De Cymru. Cyn ymuno â Caerdydd Creadigol, cyflawnodd raglen Ardaloedd Mentrau Creadigol flaenllaw Maer Llundain, mewn partneriaeth ar draws wyth o fwrdeistrefi Llundain.