Ewch i’r prif gynnwys
Wyn James

Yr Athro Wyn James

Athro Emeritws

cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Rwy'n frodor o Droed-y-rhiw ger Merthyr Tudful. Graddiais yn y Gymraeg yn Aberystwyth yn 1972. Ar ôl cyfnod yn Swyddog Ymchwil yn Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth ac yn Ddirprwy Warden Neuadd Pantycelyn, treuliais ddwy flynedd ar bymtheg yn Gyfarwyddwr Gwasg Efengylaidd Cymru.

Fe'm penodwyd yn Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg Ddiweddar yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 1994, ac arhosais yn aelod o staff Ysgol y Gymraeg nes imi ymddeol yn 2015. Dyfarnwyd Cadair Bersonol i mi gan Brifysgol Caerdydd yn 2013 a'm gwneud yn Athro Emeritws wedi imi ymddeol. Roeddwn hefyd rhwng 2002 a'm hymddeoliad yn gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America Prifysgol Caerdydd.

Rwy'n cyhoeddi'n gyson ac yn derbyn gwahoddiadau yn aml i ddarlithio ac i ddarlledu. O ran fy ngwaith ymchwil, rwyf wedi canolbwyntio’n arbennig ar yr emyn, y faled a’r gân werin; diwylliant Cymraeg de-ddwyrain Cymru; awduron benywaidd; hanes argraffu a chyhoeddi; y mudiad i ddiddymu caethwasiaeth; a’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Cyhoeddiad

2025

2024

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

2008

2007

2006

  • James, E. W. 2006. Cyfraniadau. In: Morgans, D. G. ed. Cydymaith Caneuon Ffydd. Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol
  • James, E. W. 2006. Pererinion ar y Ffordd: Thomas Charles ac Ann Griffiths. Cylchgrawn Hanes: Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd/Journal of the Historical Society of the Presbyterian Church of Wales 29/30, pp. 73-96.

2005

2004

2003

2002

2001

2000

Articles

Audio

Book sections

Books

Conferences

Videos

Websites

Ymchwil

Rwyf wedi cyhoeddi'n helaeth ar wahanol agweddau ar lên, hanes a diwylliant Cymru o gyfnod y Tuduriaid hyd heddiw. Rwyf hefyd wedi derbyn gwahoddiadau yn gyson dros y blynyddoedd i ddarlithio i gymdeithasau amrywiol, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac i gyfrannu i raglenni radio a theledu. 

Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio'n arbennig ar feysydd yn ymwneud â Christnogaeth, hunaniaeth, diwylliant gwerin, awduron benywaidd, beirniadaeth destunol a hanes y llyfr. 

Pwnc sydd wedi cael llawer o'm sylw dros flynyddoedd lawer yw'r emyn. Dyfarnwyd doethuriaeth i mi yn 1998 am olygiad o emynau Ann Griffiths a chrewyd y wefan arloesol, 'Gwefan Ann Griffiths', o dan fy ngolygyddiaeth i yn 2003. Mae mathau eraill o ganu poblogaidd, megis y faled a'r gân werin, hefyd wedi cael cryn sylw gennyf.

Rwyf hefyd wedi ymchwilio i lawer agwedd ar ddiwylliant Cymraeg de-ddwyrain Cymru, ac ers rhai blynyddoedd rwy'n cyfrannu colofn reolaidd ar hanes Caerdydd a Bro Morgannwg i bapur bro misol Caerdydd a'r Fro, Y Dinesydd

Yng nghyd-destun Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, mae fy ngwaith ymchwil wedi canolbwyntio'n arbennig ar y mudiad i ddiddymu caethwasiaeth ac ar hanes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Addysgu

Dros y blynyddoedd dysgais ar rychwant o fodiwlau yn ymwneud â diwylliant, llenyddiaeth a chrefydd Cymru yn y cyfnod modern (o'r unfed ganrif ar bymtheg hyd heddiw), a hynny ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Cyfarwyddais hefyd nifer o draethodau ymchwil.

Bywgraffiad

Anrhydeddau a dyfarniadau

  • Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
  • Cymrawd Cymdeithas Emynau Cymru
  • Cymrawd y Comisiwn Baledi Rhyngwladol
  • Aelod o Orsedd y Beirdd (Gwisg Wen)
  • Cymrawd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Caergrawnt (2004)
  • Ysgolor Fulbright a Chymrawd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Harvard (2012)
  • Cymrawd Sefydliad Gilder Lehrman ar gyfer Astudio Hanes America, Efrog Newydd (2012-13)

Contact Details

Arbenigeddau

  • Awduron benywaidd
  • Diddymu caethwasiaeth
  • Emynau, baledi a chaneuon gwerin
  • Yr Wladfa Gymreig ym Mhatagonia
  • Hanes argraffu a chyhoeddi

External profiles