Ewch i’r prif gynnwys
Sally Power

Yr Athro Sally Power

WISERD Cyd-gyfarwyddwr

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Comment
Sylwebydd y cyfryngau

Trosolwyg

Rwy'n  Gyd-gyfarwyddwr WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru), sy'n fenter gydweithredol rhwng  prifysgolion Abersytwth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i wella ansawdd a maint ymchwil gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae WISERD hefyd yn bartner allweddol i SPARK Prifysgol Caerdydd - parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd.

O fewn WISERD, fy mhrif faes arbenigedd ymchwil yw mewn addysg a'i arwyddocâd ar gyfer cymdeithas sifil, symudedd cymdeithasol ac anghydraddoldeb. Rwy'n gyd-gyfarwyddwr Astudiaeth Aml-garfan WISERDEducation sy'n olrhain profiadau pobl ifanc wrth iddynt symud ymlaen trwy ysgolion yng Nghymru.

Cyhoeddiad

2025

2024

2023

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2010

2009

2008

2007

2006

2005

2004

2003

Articles

Book sections

Books

Conferences

Monographs

Other

Ymchwil

Dros y blynyddoedd rwyf wedi ymgymryd ag ystod eang o brosiectau ymchwil ar wahanol agweddau ar addysg ac anghydraddoldeb. Mae'r rhain yn cynnwys gwerthusiadau ar gyfer amrywiaeth o lunwyr polisi (Llywodraeth Cymru, Gweithrediaeth yr Alban, Swyddfa Cabinet y DU), cymdeithasau'r sector gwirfoddol (Cyngor Lloches, Astudiaethau Maes) a Chyngor Ymchwil y DU (ESRC).

Ar hyn o bryd rwy'n ymwneud â dwy raglen ymchwil ESRC fawr. Fel rhan o Ganolfan Cymdeithas Sifil WISERD, rwy'n cymryd rhan mewn dau brosiect, un ar hawliau plant ac un ar elites a nawdd yn y gymdeithas sifil. Rwyf hefyd yn Gyd-ymchwilydd ar ddyfarniad cydweithredol ESRC sy'n archwilio gwaharddiadau ysgolion ar draws pedwar cyfreithiad y Deyrnas Unedig.

Addysgu

Mae'r rhan fwyaf o'm gwaith yn cynnwys ymchwil, ond rwy'n gwneud cyfraniadau i'r cyrsiau canlynol:

  • Cyrsiau doethuriaeth ar broffesiynoldeb a gwaith, polisi addysg a chyd-destunau cymdeithasol addysg.
  • Cyrsiau Meistr mewn polisi addysg ac ymchwil addysg.

Bywgraffiad

Cyn ymuno ag Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yn 2004 fel Cymrawd Athrawon, roeddwn yn gweithio yn Athrofa Addysg UCL, lle'r oeddwn yn Bennaeth yr Ysgol Sylfeini Addysgol ac Astudiaethau Polisi a Chyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Polisi Addysg. Cyn hynny, roeddwn i'n gweithio ym Mhrifysgolion Bryste, Warwick a Gorllewin Lloegr.

Aelodaethau proffesiynol

  • Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol
  • British Educational Research Assocation
  • Cymdeithas Gymdeithasegol Prydain
  • Society for Longitudinal and Life course Studies
  • Cymdeithas Astudiaethau Addysg

Safleoedd academaidd blaenorol

  • Pennaeth yr Ysgol Sylfeini Addysg ac Astudiaethau Polisi, Sefydliad Addysg, Prifysgol Llundain (tan 2004)
  • Darlithydd, Ysgol Addysg Graddedigion, Prifysgol Bryste
  • Swyddog Ymchwil, Ysgol Addysg, Prifysgol Warwick