Ewch i’r prif gynnwys
Marisa Casanova Dias

Dr Marisa Casanova Dias

Timau a rolau for Marisa Casanova Dias

  • Cymrawd Hyfforddiant Ymchwil Glinigol MRC, Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

    Yr Ysgol Meddygaeth

Trosolwyg

Mae Dr Marisa Casanova Dias yn seiciatrydd academaidd clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Hyfforddiant Ymchwil Clinigol MRC (Cyngor Ymchwil Feddygol) iddi i ddilyn PhD i astudio anhwylder deubegynol yn y cyfnod amenedigol, y mae hi'n ei gyfuno â bod yn ymgynghorydd er anrhydedd.

Secondiwyd Marisa i'r Swyddfa Seneddol Gwyddoniaeth a Thechnoleg lle bu'n gweithio ar sesiwn friffio polisi ar effeithiau iechyd meddwl pandemig COVID-19. Mae hi wedi gweithio yng Ngholeg y Brenin Llundain, yn ymchwilio i iechyd meddwl menywod a chyfrannu at waith yr Uned Ymchwil Polisi. Hyfforddodd Marisa yng nghynlluniau Maudsley a Choleg Prifysgol Llundain ac mae ganddi MSc mewn Ymchwil Seiciatrig o Goleg Prifysgol Llundain. Yn ystod ei hyfforddiant, dyfarnwyd cymrodoriaeth arweinyddiaeth blwyddyn o hyd iddi yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Iechyd a Gofal (NICE), lle cyfrannodd at y Canllaw Deubegynol.

Mae hi'n llywydd Adran Seiciatreg Undeb Ewropeaidd yr Arbenigwyr Meddygol (UEMS), yn ysgrifennydd Adran Iechyd Meddwl Menywod Cymdeithas Seiciatrig Ewrop (EPA) ac yn aelod o Bwyllgor Cyhoeddi'r EPA. Mae hi'n aelod o bwyllgor gwaith Cyfadran Seiciatreg Amenedigol a Phwyllgor Cynghori Rhyngwladol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae hi'n gyn-lywydd Ffederasiwn Ewropeaidd Hyfforddeion Seiciatrig (EFPT) a sefydlodd y Rhaglen Gyfnewid EFPT.

Contact Details