Ewch i’r prif gynnwys
Laura Arman

Dr Laura Arman

cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Timau a rolau for Laura Arman

Trosolwyg

Ieithyddiaeth ieithoedd lleiafrifedig yw maes ymchwil Laura, gan roi sylw arbennig i'r iaith Gymraeg.

Ar brosiect Astudiaeth Aml-Garfan fel Cydymaith Ymchwil yn WISERD Addysg, yr iaith Gymraeg o fewn addysg uwchradd yw ei phrif diddordeb ymchwil.

Cyhoeddiad

2024

2021

2020

Adrannau llyfrau

Erthyglau

Llyfrau

Bywgraffiad

Yn ystod ei gyrfa ymchwil yn Ieithyddiaeth, mae Laura wedi cyfrannu at brosiectau ymchwil ar forffogystrawen dafodieithol yr iaith Romani ac ar Gwrdeg (Kurdish) tra ym Mhrifysgol Manceinion. Yn yr un sefydliad y gwnaethodd ei gradd PhD ar agweddau o gystrawen a semanteg y Gymraeg yn 2015.

Ers dychwelyd i Gymru, mae Laura wedi gweithio ar ddarpariaeth bedagogaidd i ieithyddiaeth gyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor ar ffurf e-gyfeirlyfr Cyflwyniad i ieithyddiaeth, ac ar greu adnoddau i ymchwil ar yr iaith Gymraeg fel rhan o brosiect CorCenCC - Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes - ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ogystal, roedd yn ddarlithydd drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saenseg mewn amryw o brifysgolion gan gynnwys Bangor a Chaerdydd.

Fel rhan o brosiect ymchwil yr Astudiaeth Aml-garfan, bydd Laura yn canolbwyntio ar agweddau disgyblion at yr iaith Gymraeg a'u sgîl-effeithiau ar nod y llywodraeth o gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg.

News articles

Bydd y digwyddiadau’n archwilio pynciau gan gynnwys hawliau plant, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a hanes

Effaith ymchwil ac addysgu yn cael ei harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol

28 July 2022

Bydd y digwyddiadau’n archwilio pynciau gan gynnwys hawliau plant, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a hanes

Contact Details