Ewch i’r prif gynnwys
John Atack

Yr Athro John Atack

Cyfarwyddwr, y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

Ysgol y Biowyddorau

Email
AtackJ@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 76983
Campuses
Y Prif Adeilad, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Trosolwyg

Rwy'n ffarmacolegydd molecwlaidd gyda dros 25 mlynedd o brofiad o ddarganfod cyffuriau, ym maes y niwrowyddorau yn bennaf. Yn ystod y cyfnod hwn rydw i wedi cyfrannu at gamau cyntaf y broses darganfod cyffuriau (nodi targed a dilysu'r targed) ac wedi parhau i gyfrannu hyd at dreialon clinigol Cam 1 a Cham 2.

Rydw i wedi gweithio ar nifer o wahanol fathau o dargedau cyffuriau (ensymau, derbynyddion sydd wedi eu cyplu â phroteinau G, a sianeli ïonig) sy'n cwmpasu amrywiaeth o glefydau niwro-ddirywiol (e.e. clefydau Alzheimer, Huntington a Parkinson) ac anhwylderau seiciatrig (anhwylder deubegynol, sgitsoffrenia, anhwylder gorbryder cyffredinol, iselder). Mae gen i ddiddordeb penodol yn elfennau cyn-clinigol y broses darganfod cyffuriau, sy'n rhoi hyder bod cyffur posibl yn gallu cysylltu â'r targed a chynhyrchu allbwn gweithredol mewn bod dynol.

Beth yw fy hoff gyffur a mecanwaith gweithredu? Byddai'n rhaid i mi ddweud diasepam a'r derbynnydd GABAA ... Neu efallai cetamin a'r derbynnydd NMDA ... Neu lithiwm a sut bynnag mae hwnnw'n gweithio mewn anhwylder deubegynol ... Heb sôn am ddonepesil, felly wna' i ddim.

Cyhoeddiad

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

Articles

Book sections

Ymchwil

Ar hyn o bryd rwy'n cymryd rhan mewn prosiectau sy'n adnabod moleciwlau sy'n rhyngweithio ag is-deipiau'r derbynnydd GABBA neu is-deip AMPA y derbynnydd glwtamad. Mae'r prosiectau'n cynnwys timau amlddisgyblaethol o wyddonwyr sy'n defnyddio cemeg feddygol arloesol (dan arweiniad yr Athro Simon Ward) ac electroffisioleg (yr Athro Martin Gosling o Brifysgol Sussex a'r Athro Jerry Lambert o Brifysgol Dundee) ynghyd â nifer o bartneriaid ym myd diwydiant (e.e. GSK ac AstraZeneca).

Rydw i hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau yn eu cyfnodau cynnar sy'n astudio mecanwaith gweithredu lithiwm a rôl ApoE4 mewn clefyd Alzheimer ynghyd â dulliau newydd o fodiwleiddio NMDA a gweithrediad sianel ïonig cainad glwtamad.

Yr hyn sy'n fy ysgogi yw fy awydd i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer anhwylderau niwroddirywiol a seiciatrig sy'n cael effaith enfawr ar gymaint o'n teuluoedd, ac le mae anghenion meddygol sylweddol nad ydynt yn cael eu diwallu.

Bywgraffiad

Ar ôl cwblhau PhD mewn patholeg niwrogemegol yn Adran Patholeg Ysbyty Cyffredinol Newcastle, gweithiais am 5 mlynedd (1984-89) yn Labordy Niwrowyddorau'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Oedi ar gampws y Sefydliadu Iechyd Cenedlaethol (NIH) ym Methesda, Maryland, yn astudio newidiadau cyn ac ar ôl marwolaeth mewn niwrogemeg cleifion â chlefyd Alzheimer a syndrom Down.

Yn ystod fy nghyfnod yn NIH, dechreuais brosiect oedd yn edrych ar ddatblygu atalwyr acetylcholinesterase ar gyfer trin clefyd Alzheimer. Yna, ymunais â Chanolfan Ymchwil Niwrowyddorau Merck Sharp a Dohme yn Harlow lle gweithiais rhwng 1989–2006 ar amrywiaeth o agweddau in vitro ac in vivo ar ddarganfod cyffuriau ym maes y niwrowyddorau. Pan gaeodd y safle o ganlyniad anuniongyrchol i'r ffaith y cafodd Vioxx, cyffur pwysig cwmni Merck, ei dynnu oddi ar y farchnad, ymunais â Janssen Pharmaceuticals, sef cangen fferyllol Johnson & Johnson, lle bues yn gweithio rhwng 2006 a 2012 (yn La Jolla i ddechrau, ac yna, oherwydd y cwrw, sglodion a siocled, yn Beerse, Gwlad Belg).

Gadewais y diwydiant fferyllol i ymuno â Phrifysgol Sussex i helpu i sefydlu, gyda'r Athro Simon Ward, Canolfan Darganfod Cyffuriau Sussex, a gyda chymorth yr Athro Martin Gosling hefyd datblygodd y ganolfan enw da am ddarganfod cyffuriau ym maes y niwrowyddorau a ffarmacoleg sianeli ïonig yn benodol.

Yn haf 2017, dewisodd Simon a minnau symud i Gaerdydd. Cawsom ein denu gan y gwaith rhagorol ym maes y mecanwaith clefydau a gwyddorau clinigol, ynghyd ag ansawdd ac ysbryd cydweithredol yr ymchwilwyr y byddwn yn cydweithio â nhw. Fodd bynnag, rydym yn dal i fod mewn cysylltiad â Martin, sy'n gydweithiwr allweddol ac yn ein galluogi i ehangu'r diddordeb sydd gennym mewn ffarmacoleg sianeli ïonig.