Ewch i’r prif gynnwys
Maxine Ballam

Mrs Maxine Ballam

Technolegydd Dysgu

Trosolwyg

Cyfrifoldebau’r rôl

Rwy'n Dechnolegydd Dysgu ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel partner Addysg Ddigidol i'r Ysgol Busnes yn Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd. Rwy'n gweithio gyda chydweithwyr academaidd ac yn eu cefnogi yn eu defnydd addysgeg o dechnoleg ar gyfer dylunio addysgu a dysgu er mwyn rhoi'r profiad dysgu ar-lein gorau posibl i'w myfyrwyr. Rwyf hefyd yn cefnogi ac yn cynghori staff y Gwasanaethau Proffesiynol ar y defnydd o Ddysgu Canolog ac yn mentora ac yn cefnogi aelodau eraill o'r tîm Addysg Ddigidol.

Arbenigeddau

Addysg ddigidol, technolegau dysgu, dysgu cyfunol, dylunio dysgu, e-asesu, hygyrchedd a Dylunio Graffig.

Bywgraffiad

Dechreuais weithio fel Technolegydd Dysgu i Brifysgol Morgannwg yn 2001 cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd lle rwy’n gweithio o dan deitlau swyddi gwahanol ond i gyd yn ymwneud â Dysgu â Chymorth Technoleg ers dros 15 mlynedd. Yn gyntaf ar gyfer Canolfan Ymchwil Menterau Di-wastraff (LERC) yn 2007 ac yna ar gyfer Ysgol Busnes Caerdydd fel Swyddog Technoleg Arloesol yn 2011, cyn symud i adran Addysg Ddigidol Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd (Academi DA).

Rwyf hefyd wedi addysgu dylunio Graffig a Gwe i israddedigion, Celf a Dylunio i oedolion sy'n dysgu ac oedolion sy'n dysgu gyda namau corfforol.