Ewch i’r prif gynnwys
James Birchall

Yr Athro James Birchall

Professor of Pharmaceutical Sciences

Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Comment
Sylwebydd y cyfryngau
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Cymwysterau

  • PhD: Ysgol Fferylliaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd (1998)
  • MRPharmS: Cofrestriad proffesiynol (1994)
  • Gradd mewn Fferylliaeth (BPharm): Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, Prifysgol Caerfaddon (1993)

Cyhoeddiad

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

2008

2007

2006

2005

2004

2002

2001

2000

Articles

Book sections

Conferences

Ymchwil

Diddordebau ymchwil

Gwella’r broses o drosglwyddo macrofoleciwlau therapiwtig i mewn i’r croen trwy ddefnyddio meicronodwyddau meicroffurf

Mae epidermis y croen yn darged priodol ar gyfer trosglwyddo cyffuriau sydd o bwysau moleciwlaidd isel, brechlynnau, biofferylliaethau a therapïau ar sail genynnau, i mewn i’r corff. Fodd bynnag, nodweddir y croen gan athreiddedd gwael. Mae araeau meicronodwyddau meicroffurf wedi'u cynllunio i ymdyllu haen rhwystr croen – y stratum corneum, mewn modd sy’n llai ymwthiol ac mewn modd di-boen, er mwyn darparu llwybrau dros dro ar gyfer trosglwyddo macrofoleciwlau i’r epidermis.

Trosglwyddo trwy’r croen neu’r ysgyfaint

Er bod fectorau genynnau anfeirysol yn gallu trosglwyddo genynnau in vitro ac in vivo yn dilyn nebiwleiddio, mae effeithlonrwydd y systemau nebiwleiddio confensiynol hyn o ran y trosglwyddo, yn cael ei leihau'n sylweddol oherwydd cyfyngiadau'r ddyfais a nodweddion ffisiocemegol y gronynnau mewn crynodiadau uchel pan fônt yn y gronfa nebiwleiddio. Tra bod technolegau nebiwleiddio newydd yn cael eu datblygu, mae’n bosib y gallai anadlyddion sydd â dos-mesuredig dan wasgedd (pMDIs) ac anadlyddion powdr sych (DPIs) gynnig opsiynau eraill sy’n fwy hyfyw, ar gyfer trosglwyddo macrofoleciwlau sy'n weithredol yn therapiwtig, i mewn i’r corff, yn enwedig genynnau, i'r ysgyfaint.

Cydweithredwyr

Lleol

  • Dr Alexander Anstey (Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent)
  • Dr Chris Gateley (Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent)

Rhyngwladol

  • Dr Mark Prausnitz (Sefydliad Technoleg Georgia), Aelod Sefydlu Rhwydwaith Ymchwil Ewropeaidd i Faterion yn ymwneud â Haen Rhwystr y Croen.

Prif arbenigedd

  • Meithrin croen dynol, ex vivo
  • Microsgopeg Electron a Microsgopeg trwy oleuni
  • Imiwnohistocemeg
  • Llunio fferyllol
  • Trawsnewid celloedd a dadansoddi mynegiad genynnau

Cyllid ymchwil

Dros £10 miliwn mewn cyllid grant allanol, o ystod eang o ffynonellau gan gynnwys Cynghorau Ymchwil (BBSRC ac EPSRC cyllid ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol), y diwydiant fferyllol, cyrff y llywodraeth ac elusennau.

Addysgu

  • PH1121 Moleciwl i’r claf
  • PH1122  Rôl y fferyllydd mewn ymarfer proffesiynol
  • PH1123 Strwythur a swyddogaeth celloedd a microbau
  • PH2113 Clefydau a chyffuriau I
  • PH3110 Optimeiddio Gofal Fferyllol
  • PH3113 Clefydau a chyffuriau II
  • PH3114 Dylunio, llunio a sicrhau ansawdd cynhyrchion meddyginiaethol
  • PH4116  Prosiect ysgoloriaeth neu ymchwil ym maes fferylliaeth
  • PH4117  Gwyddorau fferyllol, ymarfer fferyllol a’r boblogaeth
  • PH4118 Gwyddorau Fferyllol, Ymarfer Fferyllol a’r Claf

Bywgraffiad

Proffil gyrfa

  • Awst 2014 – Athro mewn Gwyddorau Fferyllol.
  • Gorffennaf 2013 – Cadeirydd y Gwyddorau Fferyllol, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Prifysgol Caerdydd.
  • Awst 2010 – Mehefin 2013 Darllenydd mewn Fferylleg, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Prifysgol Caerdydd.
  • Awst 2007 – Gorffennaf 2010 Uwch Ddarlithydd mewn Cyflwyno Cyffuriau, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Prifysgol Caerdydd.
  • Chwefror 2001 – Gorffennaf 2007 Darlithydd mewn Cyflwyno Cyffuriau, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Prifysgol Caerdydd.
  • Mawrth 2006 – Nawr, Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus a Fferyllydd Ymchwil, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent.
  • Gorffennaf 2005 – Awst 2005 Ymchwilydd yn Ymweld, Sefydliad Technoleg Georgia, Atlanta, Georgia.
  • Chwefror 2000 – Chwefror 2001 Cymrawd Addysgu, Ysgol Fferylliaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd.
  • Mawrth 1998 – Chwefror 2000 Cydymaith Ymchwil, Grŵp Ymchwil Cyflwyno Cyffuriau, Ysgol Fferylliaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd.
  • Awst 1994 – Fferyllydd Locwm Presennol, Amrywiol leoliadau.
  • Awst 1993 – Gorffennaf 1994 Fferyllydd Cyn Cofrestru, Abbott Laboratories Ltd., Kent; Ysbyty St. George’s, Llundain.

Pwyllgorau ac adolygu

Pwyllgor Ymchwil ac Ymgysylltu.

Pwyllgorau ac adolygu

Research and Engagement Committee