Ewch i’r prif gynnwys

Ms Rebecca Blackwell

(hi/ei)

Timau a rolau for Rebecca Blackwell

  • Uwch Swyddog Prosiect

    Ymgysylltu Busnes a Phartneriaethau

  • Swyddog Datblygu Ymchwilwyr

    Ymgysylltu Busnes a Phartneriaethau

Trosolwyg

Rwy'n darparu cyngor a chefnogaeth i brosiectau ar raddfa fawr, a ariennir yn allanol, yn enwedig y rhai sy'n darparu cymorth i fusnesau neu'n cynnwys gweithgareddau cyflawni arloesedd cymhleth (megis dyfarnu grantiau neu ddarparu hyfforddiant neu wasanaethau eraill).  Rwy'n cefnogi datblygu prosesau a templedi penodol i brosiectau, ac yn darparu pwynt cyswllt ar gyfer mewnbwn ehangach y Gwasanaethau Ymchwil lle bo angen. Rwyf hefyd yn darparu adolygiad a chyngor arbenigol mewn perthynas â Rheoli Cymhorthdaliadau.

Bywgraffiad

Rwyf wedi gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd am 18 mlynedd mewn amrywiol rolau cymorth ymchwil, gan gynnwys rheoli prosiectau rhaglen ymchwil ar raddfa fawr a ariennir yn allanol, datblygu ceisiadau ariannu, Cronfeydd Strwythurol Ewrop a chyllid FP7. Rwyf hefyd wedi gweithio yn Swyddfa Ymchwil yr Ysgol Peirianneg yn cefnogi rheoli ymchwil a gweithgareddau PGR, ac fel Swyddog Datblygu Ymchwil ar gyfer y Celfyddydau a'r Dyniaethau.   

Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, cymhwysais fel cyfrifydd ACA gyda PriceWaterhouseCoopers yn cefnogi archwilio a sicrwydd sector cyhoeddus yng Nghymru, gan weithio gyda chleientiaid awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac addysg.  

Contact Details