Ewch i’r prif gynnwys
Carys Bradley-Roberts

Carys Bradley-Roberts

(hi/ei)

Rheolwr Ymgysylltu a Gweithrediadau

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Carys yw Rheolwr Ymgysylltu a Gweithrediadau Caerdydd Creadigol. Mae hi'n cyflwyno Strategaeth Ymgysylltu Caerdydd Creadigol ac yn cydlynu ein prosiectau a'n gweithgarwch ymgysylltu. Mae Carys yn canolbwyntio ar rannu stori greadigol Caerdydd gyda'r rhwydwaith a thu hwnt, yn ogystal â sicrhau bod Caerdydd Creadigol yn cysylltu ac yn cefnogi cymuned greadigol Caerdydd drwy eu cyfathrebiadau a'u digwyddiadau. 

 

Bywgraffiad

Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, symudodd Carys i Gaerdydd yn 2017 ar ôl iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg. Yn 2017-18, astudiodd Carys ar yr MA Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC). Wrth astudio, bu’n gweithio’n rhan-amser yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, cyn mynd i weithio’n llawn amser yn CBCDC fel Cynorthwyydd Rhaglennu a Marchnata Creadigol. Mae hi hefyd wedi gweithio mewn rolau llawrydd a gwirfoddol gyda Gŵyl y Gelli, Bafta Cymru, Gŵyl Sŵn, BBC Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Cyn dechrau gyda Chaerdydd Creadigol, bu’n gweithio fel Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau yn yr Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd.

Contact Details

External profiles