Ewch i’r prif gynnwys
Oliver Castell

Dr Oliver Castell

Ymchwilydd ar Ddechrau eu Gyrfa ac Uwch Ddarlithydd Ymestyn yr Ymennydd

Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Email
CastellO@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 76241
Campuses
Adeilad Redwood , Ystafell 2.57B, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Trosolwyg


News

3D-printed microfluidics paper awarded the cover of prestigious journal, Advanced Science - January 2020

3D printing of Lego fluidics - April 2016

Awarded SEB President's Medal, Brighton 2016
Congratulations to Dr Oliver Castell who is to be awarded the President's Medal of the Society for Experimental Biology. Oliver's award is in the cell biology section

Cyhoeddiad

2024

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

  • Baxani Kamal, D., Morgan, A. J., Li, J., Barrow, D. A. and Castell, O. 2017. The microfluidic manufacture of encapsulated droplet interface bilayers using a hybrid 3D-printed coaxial device. Presented at: 20th International Conference on Miniaturized Systems for Chemistry and Life Sciences (MicroTAS 2016), Dublin, Ireland, 9-13 October 2016Proceedings of the 20th International Conference on Miniaturized Systems for Chemistry and Life Sciences (MicroTAS 2016). Red Hook, New York: Curran Associates, Inc.
  • Li, J., Baxani Kamal, D., Castell, O. and Barrow, D. 2017. Formation of chemically responsive multisomes using droplet microfluidics. Presented at: 20th International Conference on Miniaturized Systems for Chemistry and Life Sciences (MicroTAS 2016), Dublin, Ireland, 9-13 October 2016Proceedings of the 20th International Conference on Miniaturized Systems for Chemistry and Life Sciences (MicroTAS 2016). Red Hook, NY: Curran Associates, Inc.

2016

2015

2013

2012

2011

2009

2008

2006

Cynadleddau

Erthyglau

Gosodiad

Gwefannau

Ymchwil

Mae Ymchwil yn y labordy ar groesffordd y gwyddorau biolegol a ffisegol, ac mae’n ymwneud â datblygiad a chymhwysiad technegau newydd i helpu i ddatrys cymhlethdod systemau byw.

O foleciwlau sengl mewn systemau model bach iawn i fesuriadau mewn celloedd a meinweoedd cymhleth, gall cymhwyso Cemeg, Ffiseg a Pheirianneg yn greadigol daflu goleuni ar systemau biolegol i ateb cwestiynau pwysig gyda goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer meddygaeth, bio-dechnoleg a'n dealltwriaeth sylfaenol o'r byd o'n cwmpas. Yn ei dro, mae gennym ddiddordeb mewn cymhwyso'r wybodaeth hon i ddatblygu deunyddiau ac offer newydd a ysbrydolir gan fioleg. Drwy lunio ein gallu i beiriannu ar lefel foleciwlaidd, bydd llawer o gymwysiadau pwysig yn deillio o ddatblygu’r deunyddiau meddal, clyfar, newydd, mewn meysydd fel therapiwteg, bioelectroneg, synhwyro, cyfrifiadura cemegol a chelloedd synthetig.

Trosolwg

Hyd yma, mae fy ymchwil wedi canolbwyntio'n bennaf ar gellbilenni a sut mae cydrannau cellbilen fel lipidau a phroteinau yn gweithredu a'u trefniant digymell mewn ymateb i'w hamgylchedd. Mae microsgopeg TIRF yn dechneg egwyddorol yn y labordy, gan alluogi delweddu moleciwlau sengl. Mae hyn yn ein galluogi i weld y tu hwnt i ymddygiad ensemble a nodweddu deinameg digwyddiadau unigol.

Rydym yn defnyddio microhylifeg a micro-beirianneg i drin a diffinio amodau ar raddfa micro, gan greu offer galluogi ar gyfer microsgopeg a phrosesau trwybwn uchel. Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr academaidd o ystod o ddisgyblaethau yn ein hymchwil ac rydym bob amser yn awyddus i feddwl am ffyrdd cyffrous o ddatrys problemau neu ateb cwestiynau biolegol perthnasol.

Addysgu

    • PH1122 Rôl y fferyllydd mewn ymarfer proffesiynol
    • PH3202 Methodoleg ymchwil
    • PH4116 Prosiect ysgoloriaeth neu ymchwil ym maes fferylliaeth

Bywgraffiad

Cefais fy mhenodi'n Gymrawd Ymchwil SBP i Brifysgol Caerdydd a Darlithydd ym mis Medi 2013. A finnau’n Fferyllydd drwy hyfforddiant, enillais fy PhD (Prifysgol Caerdydd) mewn microhylifeg amlwedd, gan fanteisio ar nodweddion unigryw llif ar ficro-raddfa ar gyfer gwahaniadau cemegol effeithlonrwydd uchel, gwaith a gafodd enwebiad ar gyfer Gwobr Goffa Desty am Arloesedd mewn Gwyddoniaeth Gwahanu.

Yna es ymlaen i weithio ar brosiect a ariennir gan y Bwrdd Strategaeth Dechnoleg sy'n cynnig atebion micro a nano-dechnoleg i'r heriau a wynebir yn y diwydiant gwyddonol, cyn symud i labordy Mark Wallace ym Mhrifysgol Rhydychen ar gyfer ymchwil ôl-ddoethurol i ddatblygu llwyfannau sgrinio trwybwn-uchel ar gyfer mesur swyddogaeth proteinau pilenni’n optegol.

Yn Rhydychen, roeddwn hefyd yn gallu dilyn fy niddordeb mewn gwyddoniaeth a bioffiseg fwy sylfaenol gydag astudiaethau un moleciwl o broteinau pilen mewn dwyhaenau rhyngwyneb defnyn (DIBs) - gwaith cydweithredol yr wyf yn dal i ymgymryd ag ef. Gan weithio rhwng Prifysgol Rhydychen a KTH Stockholm, ymgymerais ag ymchwil wedyn fel rhan o brosiect ymchwil gwerth £5M a ariennir gan EPSRC (Crymedd Anghymesur a Phatrymu Integredig drwy bob Graddfa Hyd). Prosiect graddfa-fawr, traws-sefydliadol, rhyngddisgyblaethol yw hwn, dan arweiniad Coleg Imperial Llundain, sy'n gweithio ym maes peirianneg pilenni moleciwlaidd. Nawr yng Nghaerdydd, rwy'n parhau i gymryd rhan yng nghonsortiwm CAPITALS.

Mae gen i ddiddordeb brwd hefyd mewn ymgysylltu â gwyddoniaeth drwy'r celfyddydau, perfformio cerddoriaeth ryngweithiol ar thema gwyddoniaeth yng Ngardd Einstein yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2013 a chael ffotograffau gwyddonol o'm hymchwil i'w gweld yn Arddangosfa Delweddau Ymchwil Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Aelodaethau proffesiynol

Rwy'n aelod cyswllt o brosiect ymchwil a ariennir gan EPSRC, cydweithrediad amlddisgyblaethol ar raddfa fawr rhwng prifysgolion blaenllaw'r DU sy'n gweithio ym maes peirianneg pilenni moleciwlaidd.