Ewch i’r prif gynnwys
Rhian Daniel

Dr Rhian Daniel

Athro Ystadegaeth

Yr Ysgol Meddygaeth

cymraeg
Siarad Cymraeg
Comment
Sylwebydd y cyfryngau
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Mae fy mhrif ffocws ymchwil ar ddulliau ystadegol sydd yn berthnasol ar gyfer dysgu oddi wrth ddata am gysylltiadau "achos ac effaith", yn enwedig pan nad yw'r data wedi cael eu casglu drwy redeg arbrawf. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn sefyllfaoedd, megis wrth geisio dysgu am gyd-effeithiau achosion sydd yn newid gydag amser, a phan yn ceisio dadansoddi'r llwybrau achosol o un achos at ei effaith, pan bod dulliau safonol yn synhwyrol dim ond o dan ragdybiaethau hynod gryf, ond lle mae dulliau mwy modern, yn hannu o'r maes a'i elwir yn Saesneg yn "causal inference", yn dibynnu ar ragdybiaethau mwy realistig. Mae fy ngwaith yn cynnwys datblygu, lledaenu a chymhwyso'r dulliau hyn. Mae fy mhrif waith methodolegol wedi ei ariannu drwy gymrodoriaeth Syr Henry Dale gan yr Ymddiriedolaeth Wellcome a'r Gymdeithas Frenhinol ac yn edrych ar ddulliau ystadegol ar gyfer astudio cyfryngwyr aml-ddimensiynol amrywiadau genetig sydd yn effeithio ar glefydau cronig. Mae fy nghydweithrediadau cymhwysol cyfredol / diweddar yn cynnwys ymchwilio gwahaniaethau cymdeithasol ac economaidd mewn goroesiad canser y fron, patrymau rhyng-genedlaethol mewn anhwylderau bwyta, ac effeithiolrwydd triniaethau a roddir i gleifion â Ffibrosis Systig. Fel newydd-ddyfodiad i Is-adran Feddygaeth y Boblogaeth (ers Mehefin 2017), rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â'm cyfoedion newydd ar sawl prosiect, yn cynnwys rhai fydd yn datblygu a chymhwyso dulliau "achos ac effaith" i sefyllfaoedd, ee ym manc data SAIL, pan mae'r data wedi cael eu casglu drwy rwtîn, yn hytrach nag yn benodol ar gyfer ymchwil.

Cyhoeddiad

2024

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2010

2006

Articles

Book sections

Bywgraffiad

Addysg a chymwysterau

  • 2009: PhD ("On aspects of robustness and sensitivity in missing data methods"; arolygwr: Mike Kenward) Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, Llundain, y DU
  • 2005: MSc (Ystadegaeth Feddygol) Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, Llundain, y DU
  • 2004: Certificate of Advanced Studies (Mathemateg) Coleg Y Breninesau, Caergrawnt, y DU
  • 2003: BA (Mathemateg) Coleg Y Breninesau, Caergrawnt, y DU

Manylion gyrfa

  • 2017 - nawr: Darllenydd, Is-Adran Meddygaeth y Boblogaeth, Prifysgol Caerdydd
  • 2015 - 2017: Darlithydd a Chymrawd Syr Henry Dale, Yr Adran Ystadegaeth Feddygol, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain
  • 2013 - 2015: Darlithydd, Yr Adran Ystadegaeth Feddygol, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain
  • 2011 - 2013: Cymrawd Ymchwil, Yr Adran Ystadegaeth Feddygol, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain
  • 2008 - 2011: Cymrawd Ymchwil, Yr Adran Epidemioleg Clefydau Heintus, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain

Aelodaethau proffesiynol

  • Y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol
  • Cymdeithas Biometreg Ryngwladol

Contact Details

Email DanielR8@caerdydd.ac.uk
Telephone +44 29206 87225
Campuses Neuadd Meirionnydd, Ystafell 306c, Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4YS

External profiles