Trosolwyg
O Wrecsam yn wreiddiol, dechreuais weithio yn Ysgol y Gymraeg fel Ymchwilydd yn 2002 cyn cael fy mhenodi yn diwtor yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg yn 2005. Rydw i bellach yn dysgu ar y Cynllun Sabothol Cenedlaethol er 2013. Mae'r Cynllun Sabothol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig rhaglen o gyrsiau hyfforddiant iaith i ddarlithwyr, athrawon a chynorthwywyr dosbarth. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o dri lleoliad sy'n gyfrifol am ddarparu cyrsiau'r Cynllun Hyfforddiant iaith Gymraeg.
Addysgu
Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg:
* Modiwlau ar gyfer athrawon cynradd sy'n addysgu'r Gymraeg fel ail iaith
* Modiwlau ar gyfer dartlithwyr, athrawon uwchradd a chynradd a chynorthwywyr dysgu sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
* Cyrsiau ar gyfer cynorthwywyr dysgu ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg
* Cyrsiau ar gyfer cynorthwywyr dysgu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.