Trosolwyg
Fel y 'Zoomiwr' a’r ymgynghorydd TikTok preswyl, mae Ellie yn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu Digidol yn cefnogi tîm Media Cymru.
Ar ôl astudio BsEcon Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd, dechreuodd Ellie ei gyrfa mewn cyfathrebu gan weithio mewn gwasanaethau Tai a Digartrefedd ac ymchwil Amgylcheddol cyn ymuno â'r tîm cyfathrebu yn y Gwasanaethau Myfyrwyr ym Mhrifysgol Met Caerdydd.
Siaradwch ag Ellie am y cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys hygyrch, dylunio digidol, e-gylchlythyrau a phlanhigion tai.