Ewch i’r prif gynnwys
Ian Harrison

Dr Ian Harrison

(e/fe)

Timau a rolau for Ian Harrison

Trosolwg

Ar hyn o bryd rwy'n Ddarlithydd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae gen i ychydig o ddiddordebau ymchwil gwahanol mewn cosmoleg arsylwadol ac ystadegol, ond fy mhrif faes gwaith yw datblygu dulliau trawsgydberthynas rhwng y Cefndir Microdon Cosmig ac arsylwadwyau eraill ar gyfer Arsyllfa Simons.

Rwyf wedi gweithio ar lens disgyrchiant gwan, yn y radio gyda'r arolwg SuperCLASS a'r Telesgop SKAO yn y dyfodol , ac yn yr optegol gyda'r Arolwg Ynni Tywyll (DES). Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn ffyrdd newydd o gyfuno data tonnau radio a disgyrchiant i wneud cosmoleg, ac mewn cosmoleg gyda chyfrif rhifau clwstwr galaethau.

Cyhoeddiad

2026

2025

2024

2023

2022

2013

2012

2011

Articles

Thesis

Bywgraffiad

Enillais MSci o Goleg Imperial Llundain mewn Ffiseg gyda Ffiseg Ddamcaniaethol yn 2010 a PhD mewn Astroffiseg o Brifysgol Caerdydd yn 2013. Yn ystod fy PhD gweithiais o dan oruchwyliaeth yr Athro Peter Coles ar gosmoleg gydag ystadegau gwerth eithafol.

Ers hynny rwyf wedi bod yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Manceinion rhwng 2013 a 2021 (ac yn parhau i fod yn ymwelydd yno). Roeddwn hefyd yn ymwelydd hirdymor ac yna'n Gynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 2018 a 2021. Ers 2021 rwyf wedi bod yn ôl yng Nghaerdydd, gan symud o fod yn Gymrawd Ymchwil i Ddarlithydd yn 2025.

 

Meysydd goruchwyliaeth

Goruchwyliaeth gyfredol

Contact Details

Themâu ymchwil

Arbenigeddau

  • Cosmoleg a seryddiaeth allgalactig