Ewch i’r prif gynnwys
Sally Holland

Yr Athro Sally Holland

(hi/ei)

cymraeg
Siarad Cymraeg

Timau a rolau for Sally Holland

Trosolwyg

Rwy'n Athro Gwaith Cymdeithasol. Rwy’n gweithio’n rhan-amser yn y Brifysgol, o ddydd Mawrth i ddydd Iau. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd, hawliau plant a chyfranogiad plant, ieuenctid, rhieni a gofalwyr mewn ymchwil a llunio polisïau. Fy nghanolfan ymchwil yw Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant CASCADE lle rwy'n arwain ar les a datblygiad staff.

Rhwng 2015 a 2022 roeddwn yn Gomisiynydd Plant Cymru.

Fi yw Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Ar hyn o bryd rwy'n arwain y gwerthusiad o Beilot Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl sy'n Gadael Gofal, ochr yn ochr â fy nghydweithiwr David Westlake.

Rwyf hefyd yn rhan o dimau ymchwil sy'n gwerthuso Effaith Dechrau Cadarn ar iechyd a gofal cymdeithasol – CASCADE, effaith Dechrau’n Deg yng Nghymru, ac astudiaeth a ariennir gan Horizon Europe ar wasanaethau i blant a ddioddef camdriniaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar Gymru, Ffrainc a Denmarc (SERENA)

Rwy'n addysgu ar y rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol ac yn goruchwylio traethodau Meistr a PhDs.

Rolau allanol cyfredol yw:

1. Athro Gwadd ym Mhrifysgol Lund, Sweden.

2. Cadeirydd Annibynnol Bwrdd Rhaglen Cyngor Gwynedd ar gyfer Cynllun Ymateb i Droseddu yn ymwneud ag achos cam-drin plant difrifol.

Rolau allanol diweddar yn cynnwys:

Cadeirydd annibynnol Panel Goruchwylio ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Llywodraeth Cymru.

Aelod o Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddiad

2026

2025

2024

2023

2022

2019

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

2008

2006

2005

2004

2001

2000

1999

Adrannau llyfrau

Cynadleddau

Erthyglau

Gwefannau

Llyfrau

Monograffau

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar blant a phobol ifanc, yn enwedig yn y maes gofal cymdeithasol plant.

Ar hyn o bryd rwy'n arwain gwerthusiad Peilot Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy wedi gadael gofal, ochr yn ochr â fy nghydweithiwr David Westlake.

Rwy'n gyd-ymchwilydd ar brosiectau ymchwil am Sure Start (Nghogledd Iwerddon), Dechrau Deg yng Nghymru a phrosiect Ewropeaidd am gefnogaeth i blant ar ôl cam-drin neu esgeuluso.

Mae fy mhrosiectau ymchwil blaenorol wedi archwilio nifer o agweddau ar fywydau plant a theuluoedd, gan gynnwys:

- Adolygiad o ymyriadau effeithiol i wella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal ar gyfer y Loteri Fawr. Yna buddsoddodd yr     elusen £5 miliwn mewn treial o'r ymyriad a argymhellodd yr astudiaeth;

- prosiect cyfranogol gyda phlant sy'n derbyn gofal gan ddefnyddio dulliau creadigol;


- astudiaeth arsylwadol o ymgysylltiad gweithwyr cymdeithasol â phlant;


- astudiaeth gymunedol o ddiogelu plant ar ystâd dai;


- cyfweliadau hanes bywyd gydag oedolion ifanc â phrofiad o ofal;


- astudiaeth carfan fabwysiadu;


- astudiaeth o brofiadau plant o gynadleddau grwpiau teulu.

 

Addysgu

Rwy'n addysgu ar y rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol

Rwy'n goruchwylio myfyrwyr traethawd hir israddedig a Meistr a Doethuriaeth

News articles

Bydd y digwyddiadau’n archwilio pynciau gan gynnwys hawliau plant, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a hanes

Effaith ymchwil ac addysgu yn cael ei harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol

28 July 2022

Bydd y digwyddiadau’n archwilio pynciau gan gynnwys hawliau plant, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a hanes

Contact Details

Email [email protected]
Telephone +44 29225 14602
Campuses sbarc|spark, Ystafell 03.14, Heol Maendy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ