Ewch i’r prif gynnwys
Llewelyn Hopwood

Dr Llewelyn Hopwood

(e/fe)

Cydymaith Ymchwil

Ysgol y Gymraeg

cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Rwy'n arbenigo mewn hanes a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a'r ieithoedd Celtaidd, yn enwedig barddoniaeth Gymraeg.

Ar hyn o bryd, rwy'n golygu'r farddoniaeth gynnar Gymraeg sy'n ymwneud â Myrddin – y dewin, y bardd, a'r proffwyd – fel rhan o brosiect ymchwil Proseict Barddoniaeth Myrddin, wedi'i leoli yma yn Ysgol y Gymraeg ac yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.

Cyn hynny, bu'm doethuriaeth, Sound and Control in Welsh Poetry, c.1300–c.1600, yn gwrando ar seiniau Cymru ganoloesol. Yno, ceisiais roi cyd-destun newydd i'n ffordd o astudio diwylliannau hanesyddol cyn y cyfnod Modern gan dalu sylw penodol i bwysigrwydd sain yn y cyfnodau hynny cyn y chwyldro argraffu a chyfnod yr Ymoleuo. Datguddiodd ystyron newydd drwy wrando'n astud ar y seiniau a ddisgrifir a thrwy ddatgymalu testunau amlieithog,.

Mae fy niddordeb mewn sain, iaith, ac ieithoedd yn mynd â'm gwaith tu hwnt i Gymru ganoloesol, gan fy mod hefyd yn mwynhau gweithio ar: eiriaduron, llyfrau gramadeg, a chanllawiau ynganu; testunau Saesneg, Gwyddeleg, a Sbaeneg; ac unrhyw beth sy'n ymwneud â cherddoriaeth.

Cyhoeddiad

2023

2022

2021

2020

Articles

Audio

Videos

Websites

Ymchwil

Mae fy niddordebau academaidd yn bennaf yn ymwneud â hanes a llenyddiaeth ganoloesol a Modern Cynnar, gan gynnwys:

  • Barddoniaeth ganoloesol Gymreig
  • Llenyddiaeth Saesneg Canol
  • Amlieithrwydd ym Mhrydain ac Iwerddon
  • Cerddoriaeth ym Mhrydain ac Iwerddon
  • Hanes geiriaduron a gwyddoniaduron
  • Astudiaeth Sain
  • Astudiaethau Cyfieithu 

Rwyf hefyd yn ymddiddori ym meysydd:

  • Hanes y synhwyrau
  • Iaith a llenyddiaeth Sbaeneg
  • Iaith a llenyddiaeth Wyddeleg
  • Astudiaethau llawysgrifol
  • Cysylltiadau Cymru â'r byd

Addysgu

Rwy'n dysgu yn achlysurol ar fodiwlau'r cwrs BA, gan gynnwys:

  • Sgiliau Academaidd Uwch
  • Sgiliau Iaith
  • Iaith ac Ystyr
  • Sgiliau Astudio Llenyddiaeth
  • Y Gymraeg Heddiw
  • Trafod Ein Llên

Rwyf hefyd yn dysgu myfyrwyr sy'n ymweld â Chaerdydd o Brifysgol Colgate, Efrog Newydd, ac yn cyfrannu at y cyrsiau ôl-raddedig.

Bywgraffiad

Brodor o Langynnwr, Caerfyrddin, wyf i ac ar ôl mynychu Ysgol Gyfun Bro Myrddin, euthum i gwblhau tair gradd ym Mhrifysgol Rhydychen:

2023: DPhil o’r Gyfadran Saesneg ar astudiaethau sain a llenyddiaeth Gymraeg canoloesol, gyda'r traethawd yn dwyn y teitl Sound and Control in Welsh Poetry, c. 1300-͏c. 1600.

2019: Gradd ryngddisgyblaethol MSt Astudiaethau Canoloesol (Y Gyfadran Hanes), gan ysgrifennu ar waith Geoffrey Chaucer, llawysgrif Cyfraith Hywel (Rawlinson C 821), hanes Ewrop yn y ddeuddegfed ganrif, a barddoniaeth amlieithog o'r bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg.

2018: BA Sbaeneg ac Astudiaethau Celtaidd (Y Gyfadran Ieithoedd Modern a Chanoloesol) gan gynnwys chwe mis yn Yr Ariannin fel athro Saesneg gyda'r Cyngor Prydeinig a chwe mis yn Sbaen fel ymchwilydd ym Mhrifysgol Valladolid (Soria) a chyfieithydd gyda 'Traducciones Abroads' (Córdoba).

Anrhydeddau a dyfarniadau

2022

  • Cymrodoriaeth Ymchwil Tymor-Byr (Llyfrgell yr Huntington, Los Angeles, Califfornia)
  • Cronfa Hyfforddiant Pellach (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau)

2021

  • Ysgoloriaeth Uwch Coleg Corpus Christi, Prifysgol Rhydychen

  • Cronfa Hyfforddiant Pellach (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau)

2019

  • Ysgoloriaeth Corpus Christi Cowley (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau / Prifysgol Rhydychen) (2019–23)

  • Gwobr am draethawd hir orau’r flwyddyn (Cyfadran Hanes Prifysgol Rhydychen)

  • Cronfa Hyfforddiant Pellach (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau)

2018

  • Ysgoloriaeth cwrs MSt Astudiaethau Canoloesol (Ysgoloriaeth Thomas Charles-Edwards mewn Astudiaethau Celtaidd) Coleg Corpus Christi, Prifysgol Rhydychen) (2018–19)

  • Her Gyfieithu Pen Cymru (Mercator Rhyngwladol/Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru)

2017

  • Gwobr Astudiaethau Celtaidd Syr John Rhŷs (Cyfadran Ieithoedd Modern Prifysgol Rhydychen)

2016

  • Ysgoloriaeth Deithio Heath Harrison (Cyfadran Ieithoedd Modern Prifysgol Rhydychen)

  • Grant Deithio McKenna (Coleg Iesu, Prifysgol Rhydychen)

2015

  • Meyricke Exhibition (Coleg Iesu, Prifysgol Rhydychen)

Aelodaethau proffesiynol

Cyd-Gadeirydd a Chynrychiolydd Astudiaeth Cymreig a Cheltaidd, University Council For Languages (Early Career Academics)

Safleoedd academaidd blaenorol

2023–Presennol

2022–2023

  • Darlithydd Ieithoedd Celtaidd, Cyfadran Ieithyddiaeth Prifysgol Rhydychen
  • Darlithydd yn y Gymraeg, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
  • Medi: Cymrawd Ymchwil Tymor Byr, Llyfrgell yr Huntington, Califfornia

2021–2022

2016

Ymrwymiadau siarad cyhoeddus

2023

  • ‘Encountering Irish in medieval Welsh poetry’, Y Gyngres Geltaidd Ryngwladol (Prifysgol
    Utrecht)
  • ‘Sain ieithoedd “tramor” ym marddoniaeth Beirdd yr Uchelwyr: Lladin, Saesneg, Gwyddeleg a mwy’, Fforwm
    Beirdd yr Uchelwyr (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth
  • ‘Towards a Catalogue of Welsh items at The Huntington Library’, The Celtic Studies Association of North America Conference (Prifysgol Virginia Tech) [ar-lein]

2022

  • Beth oedd “Cymraeg da” (1300–1600)?’, Seminar y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Aberystwyth; [Ar-lein])
  • ‘The Othering Sounds of Medieval Wales, The Harvard Celtic Colloquium (Prifysgol Harvard)
  • ‘What was “good Welsh” (1300–1600)?’, Celtic Studies Program Seminar (Prifysgol Califfornia, Berkeley)
  • ‘“Sounding Different” in Medieval Wales According to its Poets’, The International Medieval Congress (Prifysgol Leeds), The Oxford-Cambridge Celtic Colloquium (Coleg Iesu, Rhydychen), a The Medieval English Research Seminar (Prifysgol Rhydychen)
  • Sesiwn bedwar papur: ‘Corpus or Corpus? Exhuming bodies from texts and texts from exhumed bodies’, The International Medieval Congress (Prifysgol Leeds) [Trefnwyd ar y cyd gyda Dr Ruth Nugent, Prifysgol Lerpwl]
  • ‘English phonetics in medieval Welsh poetry’, Phonetics Lab Seminar (Prifysgol Lancaster)

2021

  • Clychau Beirdd y Glêr a sain barddoniaeth wael yng Nghymru ganoloesol’, Cynhadledd Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Llyfrgell Genedlaethol Cymru [Ar-lein])
  • a Ruth Nugent, ‘The Human Remains: a digital library of British mortuary science and investigation’, Digital Humanities Hangout (Prifysgol Lancaster)
  • ‘“Och i’r cloc”: Listening to time in late medieval Welsh poetry’, The Oxford-Cambridge Celtic Colloquium (Prifysgol Caergrawnt [Ar-lein])
  • ‘Creative Bilingualism in Late-Medieval Welsh Poetry: The Case of Ieuan ap Rhydderch’s Aureation’, Medieval Multilingual Manuscripts: Texts, Scribes, and Patrons (Dublin Institute for Advanced Studies, Dulyn [Ar-lein]), The Oxford Medieval Graduate Conference (Prifysgol Rhydychen [Ar-lein), a Liminality: Crossing Borders, Crossing Boundaries (The Late Antique and Medieval Postgraduate Society Conference, Prifysgol Caeredin [Ar-lein])
  • Beirdd y Glêr: Fly-Minstrels and the inhuman noise of humans in late medieval Welsh poetry’, The Senses in Medieval and Renaissance Europe: Hearing and Auditory Perception (Forum for Medieval and Renaissance Studies in Ireland; Coleg y Drindod, Dulyn [Ar-lein])
  • ‘The inhuman noise of humans in the Middle Ages’, Jesus College Medievalists Forum (Coleg Iesu, Rhydychen [Ar-lein])

2020

  • ‘Listening to the birds and beasts of Wales: Sound and Auditory Perception in Medieval Welsh Literature’, Jesus College Medievalists Forum (Coleg Iesu, Rhydychen [Ar-lein])
  • ‘What did Medieval Wales Sound Like? Listening to medieval Welsh literature’, The University of Oxford Celtic Seminar (Coleg Iesu, Rhydychen)

2019

  • ‘Writing in English, Spelling in Welsh: What and Why? A brief analysis of English poetry in “Welsh orthography” in the late Middle Ages’, The Oxford-Cambridge Celtic Colloquium (Coleg Iesu, Rhydychen) ac yn The University of Oxford Celtic Seminar (Coleg Iesu, Rhydychen)
  • ‘Barddoni yn Saesneg, sillafu yn Gymraeg: beth a pham? Cipolwg ar farddoniaeth Saesneg mewn “orgraff Gymraeg” o’r Oesoedd Canol diweddar’, Darllen, Ysgrifennu, a Chasglu: Llyfrau a Llawysgrifau yng Nghymru, 1450–1850 (Prifysgol Bangor a Chymdeithas Ddysgedig Cymru; Eglwys Gadeiriol Aberhonddu)
  • ‘Sir John Rhŷs: First Professor of Celtic at Jesus College’, Jesus College Medievalists Forum (Coleg Iesu, Rhydychen)

2017

  • ‘Pwy yw Tared? Chwilio am atebion yn El libro del Caballero Zifar a Culhwch ac Olwen’, Cymdeithas Myfyrwyr Astudiaethau Celtaidd Iwerddon a Phrydain: Y Bumed Gynhadledd Flynyddol (Prifysgol Glasgow)

2016

  • ‘¿Quien es ‘Tared’? En busca de una respuesta en El libro del Caballero Zifar y Culhwch ac Olwen’, Terceras Jornadas De Literatura, Cultura y Traducción Artúrica, (Prifysgol Valladolid; Soria, Sbaen)

Pwyllgorau ac adolygu

2023–Presennol

Golygydd adolygiadau, Llên Cymru

2020–2023

Prif Olygydd, Oxford Research in English

Meysydd goruchwyliaeth

Iaith, llenyddiaeth, a diwylliant ganoloesol

Iaith a llenyddiaeth Gwyddeleg

Prosiectau'r gorffennol

Lucy Jones, canoloesoldeb Geltaidd mewn nofelau ffantasi:

  • An analaysis of the recentring of women in three medievalist fantasy novels
  • Medieval Welsh and Irish influences in the Wheel of Time novels

Contact Details

Email HopwoodL@caerdydd.ac.uk

Campuses Adeilad John Percival , Ystafell 1.59, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

External profiles