Tony Lancaster
Rheolwr Dysgu Digidol
Trosolwyg
Cyfrifoldebau rôl
Uwch Reolwr yn y Tîm Addysg Ddigidol, sy'n rhan o Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd, yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion academaidd i gefnogi dysgu ar-lein a chyfunol.
Gwaith allweddol/arbenigeddau
- Addysg Ddigidol / Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg
- Gwella'r Amgylchedd Dysgu Digidol
- Rheoli Newid Busnes / Rheoli Newid mewn Addysg Uwch
- Arweinyddiaeth / Rheoli Tîm
- Mentora / Hyfforddi
Cyhoeddiad
2022
- Parry, D., Lancaster, A. and Evans, G. 2022. Enhancing the Student Experience: Inclusive and accessible approaches within Blackboard Ultra. Presented at: Anthology Together Europe 2023, Birmingham, 25-26 October 2023.
Conferences
- Parry, D., Lancaster, A. and Evans, G. 2022. Enhancing the Student Experience: Inclusive and accessible approaches within Blackboard Ultra. Presented at: Anthology Together Europe 2023, Birmingham, 25-26 October 2023.
Bywgraffiad
Mae Tony yn Rheolwr Dysgu Digidol o fewn y Tîm Addysg Ddigidol, sy'n rhan o Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd, sy'n cefnogi ystod o ddulliau darparu addysgu, sydd yn aml ar flaen y gad o ran technoleg newydd a thechnoleg sy'n dod i'r amlwg i gefnogi ymarfer arloesol.
Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad mewn Addysg Uwch mewn nifer o rolau gan gynnwys addysg ddigidol, newid busnes, a rheoli prosiectau. Mae wedi arwain a chyfrannu at sawl prosiect arloesi sefydliadol i gefnogi staff i ddatblygu eu sgiliau a'u hymarfer, yn enwedig arwain y rhaglen addysg ddigidol a oedd yn cefnogi staff academaidd a myfyrwyr i addysgu a dysgu ar-lein trwy bandemig COVID-19.