Ewch i’r prif gynnwys
Marion Loeffler

Dr Marion Loeffler

Darllenydd Hanes Cymru a Hanes, Cyfarwyddwr Rhyngwladol

Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Email
LoefflerM@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 70546
Campuses
Adeilad John Percival , Ystafell Ystafell 5.39, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Y Diweddaraf:

Wedi fy enwebu fel 'Tiwtor Personol y Flwyddyn', 'Aelod o Staff sy’n Ennyn Diddordeb y Mwyaf', ac 'Aelod o Staff Mwyaf Ysbrydoledig' gan Wobrau Cyfoethogi Bywyd Myfrwyr Undeb y Myfyrwyr yn Gwanwyn 2023.

Wedi  fy enwebu fel 'Aelod o Staff Mwyaf Ysbrydoledig' gan Wobrau Cyfoethogi Bywyd Myfrwyr Undeb y Myfyrwyr yn 2020,  2021 a 2022. Diolch i'r myfyrwyr!

Wedi  fy enwebu am 'Gwella Profiad Dysgu Myfyrwyr yn Eithriadol' yn Ngwobrau Dathlu 2022 Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd, fis Mehefin 2022.

Dw i'n aelod Bwrdd Llywodraethu'r Cyfarthfa Foundation https://www.business-live.co.uk/economic-development/author-sir-simon-jenkins-joins-21819498

Dw i'n Llysgennad STEM https://www.futurelearn.com/certificates/gi0zoc2

Yn ddiweddar:

Gwyliwch fi yn trafod 'Yma o Hyd' a chwpan pêl droed y byd yma: https://www.youtube.com/watch?v=uJ84jjvpN3k 

Cyfrannydd at y gyfres flaenllaw BBC2 'Art that Made Us'. https://connect.open.ac.uk/history-and-arts/art-that-made-us 

19 Ionawr 2023: 'Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi, 1764-1833): The Beauty of the Bilingual Mind', Anrhydeddus Gymdetithas y Cymmrodorion Lecture, Llundain.

12 Ionawr 2023: 'Translating the French Revolution to Wales: Thomas Paine in a Celtic Language', Cynhadledd  Entangled Histories of Revolution: Case Studies, Prifysgol Milano, Bicocca & Kings College London, Milano.

14 Rhagfyr 2022: 'Awkward Pioneer? Hester Lynch Thrale Piozzi and the Welsh Tradition', Women’s Archive Wales.

Digidol: “Curious Kids: How is history written and who writes it?”, The Conversation: https://theconversation.com/curious-kids-how-is-history-written-and-who-writes-it-153502

Cyhoeddiadau: 'Translation as Conceptual Reverberation: "Revolution" in Wales 1688-1937', in Elizabeth Amann and Michael Boyden (eds), Reverberations of Revolution. Transnational Perpectives, 1770-1850 (Edinburgh, 2021), tt. 56-76

‘Prince Albert’s “Celtic” Librarian: Culture, Diplomacy and Politics’, in Friedegund Freitag (ed.), Dynastie – Wissenschaft – Kunst. Die Verbindungen der Dynastien Sachsen-Gotha-Altenburg und Sachsen-Coburg und Gotha zum Britischen Empire (Verlag Verlag Königshausen & Neumann: Würzburg, 2020), tt. 145-60

Pwy yw Marion Löffler a beth yw ei diddordebau ymchwil?

Darllenydd Hanes Cymru ydwyf, gan arbenigo yn hanes diwylliant, gwleidyddiaeth a chrefydd y Cymry yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn eu cysylltiadau â Lloegr, Ewrop a'r Ymerodraeth Brydeinig. Ffocws fy ymchwil yw adlais Chwyldro Ffrengig 1789 yng Nghymru, hanes yr iaith Gymraeg, a phrosesau o gyfnewid gwybodaeth drwy gyfieithu a throsglwyddo cysyniadau. Awn ni tu hwnt i Gymru, Lloegr a Llanrwst!

Wedi fy magu yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, ac yn dyst i'r newidiadau syfrdanol a arweiniodd at ad-uno'r ddwy Almaen, symudais i fyw a gweithio yng Nghymru. O ganlyniad i fy hanes personol, rwyf â diddordeb mawr yn y cysylltiadau a geir rhwng bywydau unigolion a gwleidyddiaeth, ond hefyd yn rôl iaith ac ieithoedd yn y proses o drosglwyddo gwybodaeth a chysyniadau yn y gorffennol a'r presennol, ond yn enwedig rhwng 1789 a chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dim bradwr yn y tŷ hwn.

Rwyf yn ymchwilio, cyhoeddi a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan fywaf. Almaeneg yw'r famiaith, ac rwyf hefyd yn medru ar rywfaint o Rwsieg a Ffrangeg.

Rwyf wedi ymchwilio a chyflwyno pum rhaglen ddogfen hanes teledu Cymraeg ac Almaeneg, dwy raglen ddogfen Radio Cymru, ac yn ymddangos yn rheolaidd ar Radio Cymru a S4C.

Cyhoeddiad

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2014

2013

2012

2010

2008

  • Loeffler, M. 2008. 'The murmur of Welsh voices': Jasper Fforde and Wales. In: Wolf, H., Peter, L. and Polzenhagen, F. eds. Focus on English. Linguistic Structure, language variation and discursive use. Studies in honour of Peter Lucko. Leipzig: Leipziger Universitätsverlag, pp. 261-269.
  • Loeffler, M. 2008. English in Wales. In: Momma, H. and Matto, M. eds. A Companion to the History of the English Language. Wiley-Blackwell, pp. 350-357.

2007

2006

2004

2003

  • Loeffler, M. 2003. Purism and the Welsh language: A matter of survival?. In: Brincat, J., Boeder, W. and Stolz, T. eds. Purism in Minor Languages, Endangered Languages, Regional Languages, Mixed Languages: Papers from the Conference "Purism in the Age of Globalisation" Bremen, September 2001. Volume 2 of Diversitas linguarum Brockmeyer, pp. 61-90.

2002

  • Loeffler, M. 2002. Britisches Englisch. In: Janich, N. and Greule, A. eds. Sprachkulturen in Europa. Ein internationales Handbuch. Gunter Narr Verlag, pp. 19-26.
  • Loeffler, M. 2002. Kymrisch (Walisisch). In: Janich, N. and Greule, A. eds. Sprachkulturen in Europa. Ein internationales Handbuch. Gunter Narr Verlag, pp. 138-143.

2001

2000

1999

1998

1997

1995

1993

1991

Articles

Book sections

Books

Ymchwil

Canolbwynt fy ymchwil yw Cymru yn ei chyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd ac Ymerodraethol, a'r ffordd yr oedd gwleidyddiaeth, crefydd a diwylliant (yn ei ystyr mwy cynfyng) yn cyd-weu rhwng c. 1715 a chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Ymddiddoraf yn arbennig yn y cyfnod rhwng Chwyldro Ffrengig 1789 a'r 1850au, oes a elwid yn  Biedermeier, Oes y Chwyldroadau, neu'r cyfnod Rhamantaidd; oes a welodd dadeni diwylliannol, twf diwydiannol, a chynnwrf cymdeithasol yng Nghymru.

Ymhlith y cwestiynau ceisiaf ateb yw: Sut y newidiodd syniadau a chysyniadau dros amser? Beth oedd ym meddwl pobl pan fydden nhw'n trafod 'derywddon' neu 'chwyldro' ar wahanol gyfnodau ac mewn gwahanol ieithoedd? Fel Golygydd Cynorthwyol y Bywgraffiadur Cymreig, rwyf yn tracio bywydau megis rhannau sylfaenol a meicro-gosmau o hanes, yn siapio digwyddiadau hanesyddol ac yn cael eu siapio ganddynt. Rwyf wrth fy modd yn ystyried y cysylltiadau agos rhwng crefydd a gwleidyddiaeth yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pwy oedd yr Undodiaid a beth oedd gwraidd eu gwleidyddiaeth radicalaidd? Yn olaf, mae cysylltiadau Cymru a'r Cymry gyda'r byd ehangach, a hunaniaeth gymhleth y wlad fel cenedl ddiwylliannol ddarostyngedig (subaltern) ac aelod yr Ymerodraeth, o ddiddordeb imi.

Rwyf wedi gweithio ar y prosiectau canlynol:

  • Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg
  • Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru
  • Yr Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol
  • Cymru a'r Chwyldro Ffrengig
  • Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydweithiau Cymdeithasol yng Nhymru Oes Victoria

Rwyf yn Gyfarwyddwr Astudiaethau i fyfyriwr PhD y tu allan i Brifysgol Caerdydd, yn ymchwilio Cyfieithiadau'r Gymraeg c. 1789-1900; yn gyd-gyfarwyddwr PhD ar ddelweddu'r Cymru yn y ffilm 'How Green was my Valley'.

Addysgu

Barn y myfyrwyr ar fy modiwlau opsiwn 2020-21:

'Teaching staff have gone above and beyond to ensure that the transfer to online learning has not affected our
learning. They have posted everything online in an organised fashion so that it has been easy to access all the require material for lectures and seminars. The Q&A sessions that have been provided have been of great value in enhancing our knowledge and understanding of certain aspects of the module, and they have been rather useful in helping me retain skills with regard to source analysis via their format. Staff have even utilised the unfortunate circumstances of this year for the benefit of us by posting lectures in advance so that everybody has an equal chance with regard to the upcoming essay.'

'My favourite module I really had great communication with my lecturer and seminar tutor, and the seminars were really helpful, the feedback was vital and really just enjoyable.'

Fy Meysydd: Hanes Cymru; Hanes y Gymru Fodern ; Cymru a Chwyldro Ffrengig 1789 ; Hanes Diwylliannol; Hanes Prydain

Rwyf yn cyfrannu at y modiwlau Hanes Brydain Fodern (bl. 1), 'Ymagweddau at Hanes' (bl. 2), ac yn goruchwylio traethodau hir blwyddyn 2 a blwyddwyn 3.

Rwyf yn gyd-lynydd y modiwl MA 'Reading Welsh History: Nation, Class and Gender' a gynigir am y tro cyntaf yn 2021-2022 (Nid yw'r modiwl ar gael yn Gymraeg.)

From the late eighteenth century, the forces of urbanisation, industrialisation, and globalisation transformed Welsh society and culture. Historians of Wales have approached the question of such structural change by exploring the impact upon Welsh language and culture, class politics and protest, the movement of people, and through gendered, racial and ethnic identities. This module takes a conceptual approach to examine how historians have shaped histories of modern Wales, and it provides students with the opportunity to advance the skills necessary for developing their own original contribution to Welsh history.

The module focus includes the nation and national histories, Welsh culture, gender history, class and politics, and social movements and agency. These themes will be explored from the late eighteenth to the late twentieth centuries, and, where appropriate, within a transnational context. You will engage with the latest cutting-edge research as well as classic Welsh history articles and monographs. Closely reading classic texts of the past century, which were as much expressions of international historiographical trends as they shaped Welsh history-writing, as well as the very latest scholarly writings, you will gain a deeper knowledge of modern Welsh history. You will also work closely with primary sources, drawing upon the wealth of local archival materials to practice vital historical skills.

Dyma fy modiwlau opsiwn fy hun:

Hanes wedi ei Gyd-Weu: Cymru a’r Byd, 1714–1858 (bl. 2)

Yn y modiwl hwn trafodwn ddigwyddiadau allweddol yng Nghymru yn eu cysylltiad â datblygiadau diwylliannol, crefyddol, ac economaidd yn ngweddill Ynysoedd Prydain, Ewrop, a’r Ymerodraeth. Er mwyn dadansoddi peuoedd cymdeithasol yn eu cyfanrwydd a throsgynnu ffiniau gwleidyddol, defnyddiwn y cysyniad o histoire croisée neu Verflechtungsgeschichte, sef hanes wedi ei gyd-weu. Cymry, Saeson, Almaenwyr a Ffrancwyr, zamindar o Bengal a thywysog o wlad Pwyl yw actorion a gwrthrychau ein hanes. Traciwn olion Siacobitiaid, Toriaid a Chwigiaid, radicaliaid a theyrngarwyr, hynafiaethwyr a chyfieithwyr, diplomyddion, milwyr ac ysbïwyr, ar drywydd eu cysylltiadau â Chymru a’r byd.

Ein dechreubwynt yw esgyniad y Protestant Hanoferaidd Siôr I i orsedd Prydain Fawr ym 1714, gan fod y digwyddiad hwn wedi siapio hanes Cymru a’r ynysoedd hyn y tu hwnt i deyrnasiad y Frenhines Victoria. Gorffennwn adeg Rhyfel y Crimea, a derfynodd cyfnod o gydweithio gwleidyddol a diwylliannol agos rhwng Prwsia a Phrydain, a chyda Eisteddfod Fawr Llangollen 1858, uchafbwynt diwylliannol dadleuol Cymru Oes Victoria.

Cymru, Mudiad Diwygio’r Senedd, a Chwyldro Ffrengig 1789   (bl. 3)

Hyd yn ddiweddar ystyriwyd gweithredu gwleidyddol yng Nghymru cyn Rhyfeloedd Napoleon yn bennaf yng nghyd-destun Chwyldro Ffrengig 1789. Fodd bynnag, ar wahan i ychydig o eithriadau, trosglwyddwyd syniadau a deunydd gwleidyddol i Gymru wedi eu hidlo drwy’r iaith fain, trwy fudiad diwygio cyfundrefn wleidyddol Prydain Fawr, a thrwy garfan deyrngarol i’r frenhiniaeth Brotestannaidd. Darllenwyd, dosbarthwyd, a chyfieithwyd cyhoeddiadau gwleidyddol Saesneg yn frwd, gan hefyd fabwysiadu’r ffurfiau diwylliannol newydd, democrataidd, a gododd y tu hwnt i Glawdd Offa. Yn wahanol i’r Iwerddon, gweithredodd radicaliaid a theyrngarwyr Cymru y tu mewn i fframwaith gwleidyddol a phau cyhoeddus Prydain Fawr, gan ddangos ond ychydig o awydd i dorri i ffwrdd o’r fframwaith hwn, yn wahanol i'r Iwerddon.

Yn y modiwl hwn, dadansoddwn destunau, caneuon, a darluniau allweddol y cyfnod rhwng Rhyfel Annibyniaeth America a Rhyfeloedd Napoleon. Ein hamcan pennaf yw archwilio ym mha ffordd y dylanwadodd syniadau gwleidyddol allanol ar Gymru, ac i benderfynu os ydy hi’n bosib ystyried y dylanwadau hyn yn rhai Chwyldro Ffrengig 1789 yn unig. Hwyrach ei bod hi’n amser ddatblygu gwerthusiad mwy soffistigedig. Yn ogystal, ystyriwn effaith datblygiadau economaidd ar brotestio (gwleidyddol), y cysylltiadau agos rhwng crefydd a gwleidyddiaeth, a rôl menywod yng ngwleidyddiaeth a chrefydd y cyfnod.

Os ydy hyn yn swnio braidd fel dychweliad i hen faes hanes gwleidyddol, cofiwch fod y rhan fwyaf o’n ffynonellau wedi ei chreu gan ddynion a merched heb lawer o addysg, ac eto yn ddwyieithog, mewn gwlad heb brifysgol, dref â mwy na 7,000 o drigolion, na chanolfannau diwydiannol mawrion. Trafodwch!

Bywgraffiad

Wedi graddio ac ennill fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin, ym 1994, gweithiais yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd o 1994 tan 2017: fel Cymrawd Ymchwil, Cymrawd Ymchwil Hŷn, a Phennaeth Astudiaethau Ôl-Radd.

Ffocws fy nghyfrol gynnar Englisch und Kymrisch in Wales: Geschichte der Sprachsituation und Sprachpolitik (1997) oedd hanes yr iaith fain yng Nghymru, a chyfrannais dwy bennod ar yr ugeinfed ganrif i'r gyfres Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg (1994–2001). Rwyf wedi cyhoeddi erthyglau ar y mudiad Pan-Geltaidd, a gweithiais fel Rheolwr-Olygydd y pum-gyfrol Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (2001–2005), gan gyfrannu ambell gofnod. Y mae fy llyfr The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg, 1826–1926 yn dilyn hynt a helynt etifeddiaeth y ffugiwr, bardd a'r hynafiaethydd Edward Williams, dyfeisydd yr Orsedd, yng Nghymru a'r byd. Y mae'r ddwy gyfrol ddiweddaraf, Welsh Responses to the French Revolution: Press and Public Discourse 1789-1802 (2012) a Political Pamphlets and Sermons from Wales 1790-1806 (2014), yn canolbwyntio ar wahanol agweddau diwylliant gwleidyddol Cymru oes Chwyldro Ffrengig 1789. Yn sgil y gwaith ar y cyfnod hwn, rwyf wedi cyhoeddi ym maes cyfieithu gwleidyddol a throsglwyddo cysyniadau, fel y gwelir yn Ysgrifau Beirniadol a Llên Cymru.

Ar hyn o bryd, rwyf yn gweithio ar gyfrol sydd yn cyd-destunoli bywyd a gwaith Thomas Stephens o Ferthyr Tudful, yr ysgolhaig tanbaid oedd am osod seiliau hanes Cymru ar sylfeini gwyddonol.

Anrhydeddau a dyfarniadau

Gorffennaf-Rhagfyr 2021 Grant 'Civic Mission' gan 'Research Wales Innovation' wedi ei ddyfarnu gan Brifysgol Caerdydd,  Ehangu Cyfranogiad a Chysylltiadau Allanol, i ddatblygu a chynnal Dosbarth Meistr CA4 a chymorth dysgu digidol cyfrwng Cymraeg ar 'Terfysgoedd Merthyr Tydfil 1800'

Mehefin-Gorffennaf 2021 Grant CESI Prifysgol Caerdydd 'Alternatives to Formal Written Exams' i oruchwylio gwaith 3 myfyriwr a fydd yn archwilio'r pwnc a cynhyrchu adroddiad a chanllaw

2020 Grant Coleg Cymraeg Cenedlaethol i oruchwylio creu: 'Llyfryddiaeth Esboniadol a Chymorth Dysgu ac Addysgu (Digidol) o Ffynonellau Cynradd Cymraeg Printiedig y 18fed Ganrif yng Nhgasgliadau Arbennig Llyfrgell y Dyniaethau Prifysgol Caerdydd' (wedi ei ohirio than ddiwedd y pandemig)

Grant CUROP 33 Prifysgol Caerdydd, 'Dowlais Iron Works Letters, 1852-1854: Crisis, Cholera and Negotiation'. Arwain prosiect trawsysgrifio a golygu llythyrau at Arglwydded Charlotte Guest gan y fyfyrwraig BA Hanes  Llenyddiaeth Saesneg Eve Lewis, a chreu argaeledd i'r cyhoedd (haf 2019)

Gwobr Bwrdd Golygyddol, The Transactions of the Radnorshire Society (2018)

Grant Cynhadledd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2016)

'Bravo Aberystwyth', rhaglen ddogfen ar alltudio athro Almaeneg o Aberystwyth ym 1914, yn gyfraniad Cymru ac ar y rhestr fer yn Ngwyl Cyfryngau Celtaidd (Celtic Media Festival) Inverness (2014)

Grant Cynhadledd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2014)

Grant prosiect, The Leverhulme Trust (2013-2015)

Gwobr, The Transactions of the Radnorshire Society (2012)

Grant teithio, AHRC, Bonn (2006)

Gwobr arbennig, European Small Film Festival, am y rhaglen deledu BBC Cymru/ORB yr Almaen Yn ôl i’r Wal – Zurück zur Mauer  (1999)

Gwobr, German-British Forum, ‘The most positive contribution to German-British relations in 1998’ am y rhaglen deledu BBC2 ‘Two Kisses for a Sleeping Princess’ ar safle Cymru yn Ewrop (ar y cyd gyda Sir Norman Foster am ei waith ar y Reichstag ym Merlin) (1998)

Grant ymchwil ôl-ddoethurol,  Deutscher Akademischer Austauschdienst (DAAD) (1994)

Grant ymchwil ôl-radd, Deutscher Akademischer Austauschdienst (DAAD) (1992)



Aelodaethau proffesiynol

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Aelod Pwyllgor Archif Menywod Cymru Pwyllgor (womensarchivewales.org)

Women's History Network

Fellow of the Royal Historical Academy

British Society for Victorian Studies

Cymdeithas Hanes Ceredigion

Botwm Byd

Safleoedd academaidd blaenorol

Awst 2019 - presennol Darllenydd Hanes Cymru, Prifysgol Caerdydd

2018 - 2019 Darlithydd Hanes Cymru, Prifysgol Caerdydd

2014 - Golygydd Cynorthwyol Y Bywgraffiadur Cymreig

1994 - 2017 Cymrawd Ymchwil, Cymrawd Ymchwil Hyn (sori dim to bach ar gael),  Pennaeth Astudiaethau Ôl-radd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Celtaidd Prifysgol Cymru, Aberyswtyth

1990 - 1994 Darlithydd, Adran Astudiaethau Saesneg ac Americaneg, Prifysgol Humboldt, Berlin

Ymrwymiadau siarad cyhoeddus

Array

Pwyllgorau ac adolygu

Ar Fwrdd Cyfarwyddwyr 'The Cyfarthfa Foundation'

Aelod o Bwyllgor 'Archif Menywod Cymru'

Panel Hanes Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adolygydd llawysgrifau a chynigion: Gwasg Prifysgol Cymru, Bloomsbury Publishing, Boydell&Brewer, Cyngor Llyfrau Cymru, Cylchgrawn Hanes Cymru, Llafur

Adolygydd erthyglau a llyfrau: Cylchgrawn Hanes Cymru, The International Journal of Welsh Writing in English, Cambrian Medieval Celtic Studies, Morgannwg

Golygydd Cynorthwyol y Bywgraffiadur (2014-2022)

Meysydd goruchwyliaeth

Hanes diwylliannol, gwleidyddol a chrefyddol Cymru

Hanes menywod yng Nghymru

Hanes sefydliadau a grwpiau diwylliannol yng Nghymru, megis yr eisteddfod

Hanes cysyniadol / Begriffsgeschichte yn ei gysylltiad ag addasu a chyfieithu rhwng diwylliannau ac ieithoedd

Cysylltiadau rhwng Cymru a'r Almaen

Cymru fel cenedl ddiwylliannol a chyfranogwr israddol yn Ymerodraeth

Bywgraffiad Cymraeg

Celticiaeth a Chanoloesoldeb