Ewch i’r prif gynnwys
Damian McAuliffe

Mr Damian McAuliffe

Timau a rolau for Damian McAuliffe

Trosolwg

Rwyf yn gyfrifol i Gyfarwyddwyr y Ganolfan Ymchwil Treialon ac uwch aelodau eraill o staff am ddarparu cymorth rheoli proffesiynol, gan gymryd rhan weithredol yng nghyfraniad y Ganolfan at gyflawni cynlluniau Strategol y Brifysgol a'r Coleg. Rwyf hefyd yn arwain ar ddarparu gwasanaethau proffesiynol yn effeithiol ac yn effeithlon yn y Ganolfan, gan gynnwys:

 

  • Rheoli busnes
  • Rheoli ymchwil
  • Gweinyddiaeth
  • Gweithrediadau
  • Cyfathrebu

 

Wrth wneud hynny, rwy'n sicrhau bod y timau gwasanaethau proffesiynol hyn a'r holl swyddogaethau cymorth ymchwil yn darparu'r gefnogaeth angenrheidiol i gymuned academaidd y Ganolfan a rhanddeiliaid allanol. Mae hyn yn cynnwys gweithredu mentrau Coleg/Prifysgol a gwella gwasanaethau cymorth yn barhaus.

 

Rwyf hefyd wedi bod yn gyd-ymgeisydd ar geisiadau llwyddiannus am gyllid seilwaith ar gyfer gweithgaredd y Ganolfan sy'n dod i gyfanswm o £13.4M.

Contact Details

Email [email protected]
Telephone +44 29206 87513
Campuses Neuadd Meirionnydd, Ystafell 708E, Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4YS