Ewch i’r prif gynnwys
Mathew Pugh  SFHEA

Dr Mathew Pugh

SFHEA

cymraeg
Siarad Cymraeg

Timau a rolau for Mathew Pugh

Trosolwyg

Mae fy niddordebau mewn ymchwil addysg mathemateg, lle mae fy niddordebau yn bennaf yn ymwneud ag ymrwymiad myfyrwyr gyda'u astudiaethau. Mae agweddau arbennig o hyn yn cynnyws: agweddau ac ymarferion addysgu effeithiol, yn arbennig ar gyfer garfannau mawr; cymhellu ymrwymiad, yn arbennig trwy defnyddio asesiadau; a chyfeiriad meddwl ac agweddau at addysgu myfyrwyr.

Mae fy ymchwil mathemateg wedi canolbwyntio ar ddosbarthu categorïau modiwl ar gyfer categorïau tensor modwlar sy’n ymddangos o fewn CFT, yn arbennig y rhai sy’n gysylltiedig i grwpiau Lie cryno, ond nid yn angenrheidiol yn gysylltiedig. Dechreuodd hyn gyda’r achos o SU(3) fel rhan o fy PhD, ond mae wedi ymestyn ers hynny i G2, Sp(2) ac SO(3).

Dyletswyddau o fewn yr Ysgol, Coleg a Phrifysgol

  • Deon Cyswllt – Y Gymraeg, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
  • Aelod, Grŵp Gweithredol y Gymraeg y Brifysgol
  • Aelod, Is-Bwyllgor Cymeradwyo ac Ail-ddilysu Rhaglen y Brifysgol

Dyletswyddau allanol

  • Aelod, Panel Gwyddorau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Cyd-arweinydd, Cyfres Seminarau Mathemateg Seren
  • Aelod, Pwyllgor Addysgiadol y Consortiwm Ewropeaidd ar gyfer Mathemateg mewn Diwydiant (ECMI)

Cyhoeddiad

2025

2024

2021

2020

2019

2016

2015

2013

2012

2011

2010

2009

2008

Cynadleddau

Erthyglau

Gosodiad

Ymchwil

Ymcwhil Addysg Mathemateg

Mae gennyf ddiddordeb mewn addysg mathemateg ers meitin. Yn fwy ddiweddar mae fy niddordebau wedi crisialu o gwmpas y syniad o ymrwymiad myfyrwyr, yn benodol ymrwymiad academaidd myfyrwyr gyda'u hastudiaethau mathemateg mewn Addysg Uwch.

Mae yna ambell agwedd perthnasol i'r thema yma:

  • Agweddau at addysgu, yn arbennig gyda garfannau mawr
  • Annog ymrwymiad, yn arbennig trwy defnyddio asesiad
  • Asesiad ac Adborth, yn fwy cyffredinol, i gefnogi dysgu ac ymrwymiad
  • Cymunedau dysgu
  • Agweddau myfyrwry at ddysgu

Rhai diddordebau ymchwil penodol yw:

  • Pa fathau o ymrwymiad sydd fwyaf effeithiol ar gyfer dysgu mathemateg?
  • Pa ffactorau sy'n dylanwadu ar ymrwymiad myfyrwyr mewn mathemateg?
  • Sut i wella ymrwymiad myfyrwryr yn fwy effeithiol ar gyfer dysgu?

Ymchwil Mathemateg

Mae fy ymchwil mathemateg wedi bod mewn algebrâu gweithredyddion - yn arbennig, theory is-ffactorau, y dechreuwyd gan fedalydd Fields, Vaughan Jones. Mae is-ffactorau yn gyffredinoliaeth o grwpiau sy’n cynnwys dimensiynau sydd ddim yn gyfanrifau. Maent yn amgodio cymesureddau cwantwm tu hwnt i grwpiau ac mae ganddyn nhw gymwysiadau yn Theori Maes Cydffurfiol (Conformal Field Theory, CFT). Rwyf wedi ehangu’r theory o is-ffactorau trwy luniadau perthnasol i grwpiau Lie. Mae fy ngwaith wedi darparu enghreifftiau newydd ar gyfer algebryddion, a oedd yn rhan o raglen 6-mis yn Sefydliad Isaac Newton, Caergrawnt, yn 2017.

Yn fwy ddiweddar mae fy ymchwil wedi bod yn canolbwyntio ar ddosbarthu categorïau modiwl ar gyfer categorïau tensor modwlar sy’n ymddangos o fewn CFT, yn arbennig y rhai sy’n gysylltiedig i grwpiau Lie cryno, ond nid yn angenrheidiol yn gysylltiedig. Dechreuodd hyn gyda’r achos o SU(3) fel rhan o fy PhD, ond mae wedi ymestyn ers hynny i G2Sp(2) ac SO(3).

Fy Erthyglau ar ArXiv

Cynadleddau a seminarau y trefnwyd

  • CETL-MSOR 2023, Caerdydd, 7-8 Medi 2023 (gyda Jon Gillard, Rob Wilson)
  • Workshop on Operator Algebras: Subfactors, K-theory, Conformal Field Theory, Gregynog, 27 Gorffennaf - 2 Awst 2022 (gyda Masaki Izumi, Gandalf Lechner, Ulrich Pennig)
  • Cynhadledd Psychology of Mathematics Education 2022, arlein, 12 Gorffennaf 2022 (gyda Claire Ketnor, Dave Darwent)
  • IMA HE Teaching & Learning Workshop: Educational Enquiry in the Mathematical Sciences, Bryste, 27 Mehefin 2022 (gyda Rob Wilson, Jos Gunns)
  • Cydlynnydd seminar arlein clwstwr ymchwil Psychology of Mathematics Education, 2020-2024
  • IMA HE Teaching & Learning Workshop: Feedback in Mathematics, Cardiff, 11 Mehefin 2019 (gyda Rob Wilson)
  • LMS South Wales & South West Regional Meeting a Workshop on Algebraic Structures and Quantum Physics, Caerdydd, 13–15 Rhagfyr 2017 (gyda Gandalf Lechner, Simon Wood)
  • LMS-WIMCS Workshop on Cluster Algebras and Preprojective Algebras, Caerdydd, 17–18 Hydref 2014
  • INI-WIMCS Meeting on Noncommutative Geometry, Caerdydd, 16–20 Ebrill 2012 (gyda David Evans, Otgonbayar Uuye)
  • WIMCS Workshop on Higher Gauge Theory, TQFT's and Categorification, Caerdydd, 9–10 Mai 2011 (gyda David Evans, Tim Porter)
  • EU-NCG Focused Semester on Mathematical Physics, Caerdydd, Chwefror – Mehefin 2010 (gyda David Evans).

Addysgu

Yn bresennol rwyf yn addysgu cwrs Blwyddyn 1 ar Hafaliadau Llinol a Differol, a chwrs Blwyddyn 3 ar Theori Clymau.

Yn y gorffennol rwyf wedi addysgu cyrsiau Blwyddyn 1 Calcwlws a Seiliau Mathemateg, a chwrs Blwyddyn 3 ar gyflwyniad i addysgu mathemateg mewn ysgol uwchradd.

Rwyf yn cefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg yr Ysgol, gan ddarparu addysg ar gyfer bob blwyddyn israddedig.

Bywgraffiad

Addysg a chymhwysterau

  • 2020: Cymrawd Uwch yr Academi Addysg Uwch (SFHEA)
  • 2013: Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA)
  • 2009: PhD (Mathemateg), Prifysgol Caerdydd
  • 2004: BSc Mathemateg, Prifysgol Caerdydd

Safleoedd academaidd blaenorol

  • 2011 - presennol: Ysgol Mathemateg, Prifysgol Caerdydd
  • 2008 - 2011: Cymrawd ymchwil, Prifysgol Caerdydd

Pwyllgorau ac adolygu

  • 2025 - 2026: Cadeirydd PanelAmgylchiadau Esgusodol yr Ysgol
  • 2025 - 2026: Aelod o Bwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Ymchwil Ol-raddedig yr Ysgol
  • 2022 - presennol: Aelod a chadeirydd Is-bwyllgor Cymeradwyo ac Ail-ddilysu Rhaglen y Brifysgol
  • 2022 - 2026: Cadeirydd Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yr Ysgol
  • 2022 - 2026: Aelod o Bwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Coleg
  • 2022 - 2026: Aelod o Banel Myfyriwr Ymchwil Ol-raddedig a Staff yr Ysgol
  • 2021 - 2026: Cadeirydd Bwrdd Astudiaethau isradddedig ac ol-raddedig Mathemateg
  • 2021 - 2025: Aelod o Banel Amgylchiadau Esgusodol yr Ysgol
  • 2017 - presennol: Aelod o Grwp Gweithredol y Gymraeg y Brifysgol
  • 2015 - 2026: Aelod o Banel Myfyriwr/Staff yr Ysgol
  • 2013 - presennol: Aelod o Gangen Prifysgol Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • 2013 - 2019: Aelod o Bwyllgor Dysgu ac Addysgu
  • 2014 - 2016: Aelod o Fwrdd Golygu'r Wefan Mathemateg
  • 2011 - 2012: Aelod o'r Panel Arolygu Modiwlau

Pwyllgorau allanol

  • 2025 - presennol: Cyd-arweinydd Cyfres Seminarau Mathemateg Seren
  • 2025 - presennol: Aelod o Bwyllgor Addysgiadol y Consortiwm Ewropeaidd ar gyfer Mathemateg mewn Diwydiant (ECMI)
  • 2024 - presennol: Arholwr allanol, Prifysgol Kent
  • 2022 - 2025: Cyd-arweinydd Cystadleuaeth Mathemateg Seren
  • 2011 - presennol: Aelod o Banel Pwnc Mathemateg a Ffiseg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Contact Details

Email [email protected]
Telephone +44 29208 76862
Campuses Abacws, Ystafell Ystafell 3.20, Ffordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Themâu ymchwil

Arbenigeddau

  • mathemateg bur
  • Mathemateg a rhifedd cwricwlwm ac addysgeg