Ewch i’r prif gynnwys
Allan Theophanides

Mr Allan Theophanides

Rheolwr Dysgu Digidol

Bywgraffiad

Ar ôl gweithio ym maes Addysg Ddigidol ers dros 20 mlynedd mewn nifer o sefydliadau rwyf wedi treulio 12 mlynedd olaf fy ngyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd fel Rheolwr Technoleg Dysgu/Addysg Ddigidol. Gan ddechrau yn yr Ysgol Meddygaeth sefydlais Uned Technoleg Dysgu gyntaf y Prifysgolion yn helpu i gefnogi a datblygu cyrsiau Addysg Feddygol dysgu cyfunol ac ar-lein.   Roedd yr Uned Technoleg Dysgu hefyd yn darparu hyfforddiant i staff a myfyrwyr, cymorth technegol, datblygu cynnwys pwrpasol, ymgynghoriad ar ddylunio'r cwricwlwm, cymorth rheoli prosiect, technolegau newydd ar gyfer ymchwil addysg yn ogystal â chreu llwybr dilyniant gyrfa Technolegydd Dysgu cyntaf Caerdydd.

Erbyn hyn, rwy'n gweithio yn Nhîm Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu fel un o'r Rheolwyr Dysgu Digidol a'r Arweinydd Technegol sy'n darparu ymgynghoriad ar bob agwedd ar Addysg Ddigidol ar draws y sefydliad cyfan. O helpu i gynghori ar y dewis (a'r defnydd priodol) o dechnolegau ar gyfer dysgu i ddarparu arweiniad technegol a gwybodus yn addysgeg i brosiectau ar raddfa fawr ar draws y sefydliad. 

Themâu ymchwil

Arbenigeddau

  • Addysg Ddigidol
  • e-Ddysgu
  • Cwricwlwm a Datblygiad Addysgeg
  • Systemau addysg
  • Addysg broffesiynol a hyfforddiant