Mr Richard Thomas
Darlithydd mewn Cysylltiadau Cyhoeddus
Trosolwyg
Rwy'n ddarlithydd (addysgu ac ysgolheictod) ac ar hyn o bryd rwy'n addysgu ar y rhaglen MA Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Chyfathrebu Byd-eang sy'n arbenigo mewn theori cysylltiadau cyhoeddus rhyngwladol.
Mae fy nghefndir mewn newyddiaduraeth ac yn enwedig chwaraeon, cyn arallgyfeirio i mewn i gysylltiadau cyhoeddus ac yna addysg.
Yn ystod mwy na 30 mlynedd mewn newyddiaduraeth rwyf wedi gweithio i nifer o sefydliadau cyfryngau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys y BBC, The Times a'r Guardian. Ar ôl cwblhau MA yn y cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu, deuthum yn bennaeth cynnwys mewn un asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus cyn symud i fod yn gyfarwyddwr ar un arall.
Yn ogystal â Phrifysgol Caerdydd, rwyf wedi cael profiad o ddarlithio ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Falmouth a Phrifysgol Gorllewin Llundain.
Fy niddordeb arbennig yw cysylltiadau cyhoeddus sy'n gysylltiedig â chwaraeon, yn enwedig rheoli argyfwng ac atgyweirio delweddau.
Gan ychwanegu at fy TAR, ym mis Mai 2023 fe wnes i gwblhau gan Gymrodoriaeth HEA Prifysgol Caerdydd (FHEA).