Ewch i’r prif gynnwys
Sarah Thompson

Dr Sarah Thompson

(hi/ei)

Timau a rolau for Sarah Thompson

Trosolwyg

Rwy'n Gydymaith Ymchwil sy'n gweithio yng nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) a'r Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu mewn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer).

Ers mis Mehefin 2025 rwyf wedi bod yn ymgymryd â Gwobr Ymchwilydd Hyrwyddo HCRW sy'n datblygu maes ymchwil niwrowyrgyfeirio a gofal cymdeithasol plant. Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith a wnes i yn ystod fy Nghrodoriaeth HCRW o'r enw 'Sut allwn ni wella profiadau a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal? Astudiaeth dulliau cymysg o anghenion, gwasanaethau ac arfer da'.

Ers ymuno â CASCADE yn 2019 rwyf wedi gweithio ar nifer o brosiectau gan gynnwys:

  • Gwerthusiad o Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol Plant
  • Treial rheoli ar hap o Schwartz Rounds, ymyrraeth grŵp sy'n ceisio gwella lles staff gwaith cymdeithasol
  • Gwerthusiad o'r defnydd o ddull sy'n seiliedig ar drawma mewn gwasanaethau cam-drin domestig
  • Prosiectau a ariannodd What Works for Children's Spocial Care ar weithwyr cymdeithasol mewn ysgolion a chyllidebau datganoledig

Fy rôl yn DECIPHer yw gweithio ar brosiect SERENA a ariennir gan Horizon Europe (Asesu a gwella mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i blant sy'n agored i niwed gan gamdriniaeth), gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Nenmarc a Ffrainc i nodi rhwystrau a galluogwyr ar gyfer mynediad at wasanaethau i blant sydd wedi profi camdriniaeth neu esgeulustod. 

Yn flaenorol, cwblheais PhD yng Nghanolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2018. Ers hynny rwyf wedi ymgymryd â rôl ymchwil yn y sector cyhoeddus yn gweithio i Estyn ar ymchwil addysg yng Nghymru ac wedi bod yn gydymaith ymchwil ym Mhrifysgol Durham yn gwerthuso rhaglen gymorth i rieni plant awtistig. 

 

Cyhoeddiad

2025

2024

2023

2022

2021

2020

2019

Articles

Monographs

Bywgraffiad

Addysg

PhD Seicoleg, Prifysgol Caerdydd (2013-2017)

MSc Seicoleg, Prifysgol Essex (2011-2012)

BA Daearyddiaeth, Prifysgol Sheffield (2001-2005)

Swyddi academaidd

Cydymaith ymchwil DECIPHer, Prifysgol Caerdydd (2025-presennol)

Cydymaith ymchwil, CASCADE, Prifysgol Caerdydd (2019-presennol)

Cydymaith ymchwil, Seicoleg, Prifysgol Durham (2018-2019)

Contact Details

Email [email protected]
Telephone +44 29208 74435
Campuses sbarc|spark, Ystafell 03.14, Heol Maendy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ