Ewch i’r prif gynnwys
Damian Walford Davies

Yr Athro Damian Walford Davies

(e/fe)

Profost a Dirprwy Is-Ganghellor

cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Fy swydd bresennol, ers Awst 2021, yw Profost a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, sef Prif Swyddog Academaidd y sefydliad. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r Is-Ganghellor a'm cydweithwyr ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol i ddarparu arweinyddiaeth academaidd strategol ar draws ein tri Choleg. Mae fy mhortffolio hefyd yn cynnwys arwain ar: adnoddau academaidd a'r broses gynllunio a chyllido flynyddol; recriwtio myfyrwyr; cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth; iechyd, diogelwch a lles; y Gymraeg (o ran darpariaeth a diwylliant ehangach); cydweithio â Medr (ein rheoleiddiwr addysg) a Llywodraeth Cymru; a chydweithio ag Undebau Llafur y campws.   

Cyhoeddiad

2023

2020

2019

2018

  • Walford Davies, D. 2018. Paradise destroyed. In: Dead Ground. Clutag Press, pp. 125-134.

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

2008

2007

2006

2005

2003

2002

2001

2000

1999

1998

1997

1996

1994

1992

1975

Articles

Book sections

Books

Ymchwil

Prif feysydd fy ymchwil yw Rhamantiaeth (yn enwedig y berthynas rhwng llenyddiaeth a gwleidyddiaeth yn oes y Chwyldro Ffrengig) a diwylliannau materol ehangach y cyfnod Rhamantaidd; Hanesyddiaeth Ramantaidd a methodolegau Astudiaethau Rhamantaidd (gan gynnwys y 'gwrthffeithiol' a dulliau beirniadol-greadigol); Rhamantiaeth a daearyddiaeth/cartograffeg; Llenyddiaeth Seasneg Cymru; barddoniaeth yr ugeinfed ganrif (Cymraeg a Seasneg); ac Ysgrifennu Creadigol (yn enwedig barddoniaeth).

Rwy'n cyd-ysgrifennu cyfrol olaf The Oxford Literary History of  Wales, fel rhan o gyfres yr wyf yn Olygydd Cyffredinol arni. Ymhlith fy ngyhoeddiadau diweddar mae erthyglau ar S. T. Coleridge a thrawma ac ar John Keats a'r ddarfodedigaeth; y casgliad golygedig Counterfactual Romanticism (Gwasg Prifysgol Manceinion, 2019); y casgliad cyd-olygedig Romantic Cartographies: Mapping, Literature, Culture, 1789-1832 (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2020); a'r casgliad Roald Dahl: Wales of the Unexpected (Gwasg Prifysgol Cymru, 2016). Rwy'n cwblhau erthyglau ar Thomas De Quincey, ac ar Dylan Thomas a gweddi.

Mae fy ngwaith creadigol yn cynnwys y cyfrolau canlynol o farddoniaeth: Suit of Lights (Seren, 2009), Witch (Seren, 2012), Alabaster Girls (Rack Press, 2015), Judas (Seren, 2015), Docklands (Seren, 2019), Viva Bartali! (Seren, 2023) a Free Verse: Poems for Richard Price (Seren, 2023; golygwyd ar y cyd â Kevin Mills). Rwy'n cwblhau llyfr o'r enw The Ground, sy'n archwilio hanes cydblethedig pum cae cyfagos ym Mro Morgannwg, ynghyd â chyfrol o farddoniaeth yn dwyn y teitl London Horses.

Rwy'n gyd-olygydd barddoniaeth y cyfnodolyn Scintilla.

Addysgu

Ar hyn o bryd rwy'n Brofost a Dirprwy Is-Ganghellor ac felly mae fy amser addysgu yn gyfyngedig, ond mae fy mhortffolio  yn cynnwys Ramantiaeth, Llenyddiaeth Saesneg Cymru ac Ysgrifennu Creadigol. Rwy'n parhau i oruchwylio myfyrwyr PhD ac yn croesawu ceisiadau yn y meysydd uchod.

Bywgraffiad

Ar hyn o bryd fi yw Profost a Dirprwy Is-Ganghellor y sefydliad. Ymunais ag Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol yn 2013 o Brifysgol Aberystwyth, lle roeddwn yn Bennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a deiliad Cadair Rendel yn Saesneg. Gwasanaethais fel Pennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth rhwng 2014 a 2018. Y flwyddyn honno fe'm penodwyd yn Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol cyn imi ymgymryd yn 2021 a'm swydd bresennol. 

Gwasanaethais fel Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru, un o gwmnïau cenedlaethol Cymru, rhwng 2012 a 2018, ac o 2015 i 2018 fi oedd Cadeirydd Bwrdd Gwasg Prifysgol Caerdydd.

Aelodaethau proffesiynol

Rwy'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Meysydd goruchwyliaeth

Rwy'n croesawu ceisiadau am astudiaeth PhD ym meysydd llenyddiaeth a diwylliant y cyfnod Rhamantaidd; daearyddiaeth lenyddol/cartograffeg; Ysgrifennu Cymraeg yn Saesneg; ac Ysgrifennu Creadigol (yn enwedig barddoniaeth).