Ewch i’r prif gynnwys

Trosolwyg

Rwy'n ddarlithydd ar gyfer darpariaeth Gymraeg JOMEC ar ein cyrsiau BA.

Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, gweithiais yn y cyfryngau a chyfathrebu am dros 20 mlynedd.

Bûm yn gweithio i'r BBC fel newyddiadurwr a chynhyrchydd ar draws radio, teledu a llwyfannau cyfryngau Cymraeg a Saesneg.

Roeddwn i'n Olygydd Amlblatfform ac yn Rheolwr Olygydd gyda BBC Chwaraeon Cymru, yn rheoli sylw BBC Cymru o'r Gemau Olympaidd, Cwpan Rygbi'r Byd, Rygbi'r Chwe Gwlad, Cwpan Ryder a chyfres y Lludw.

Yn 2016 camais i rôl Cyfarwyddwr Cyfathrebu Chwaraeon Cymru gan helpu'r sefydliad i arddangos chwaraeon Cymru yn well ar lefel genedlaethol a rhyngwladol yn ogystal ag ennyn diddordeb cynulleidfaoedd yn stori chwaraeon ar lawr gwlad a chymunedol.

Contact Details

Email WeeksA3@caerdydd.ac.uk
Telephone +44 29225 12300
Campuses Sgwâr Canolog, Ystafell 1.27, Caerdydd, CF10 1FS

External profiles