Ewch i’r prif gynnwys
Martin Wright

Martin Wright

cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Timau a rolau for Martin Wright

Trosolwyg

Hanesydd y Brydain fodern ydwyf, gyda diddordeb arbennig yn hanes radicaliaeth, sosialaeth a mudiad y dosbarth gweithiol dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Rwyf wedi ysgrifennu am y berthynas rhwng sosialaeth a hunaniaeth Gymreig, ac am hanes materol a gweledol y mudiad llafur Prydeinig. Rwy'n dysgu modiwlau ar hanes Cymru, hanes sosialaeth Brydeinig a hanes gwleidyddol Prydain. Rwy’n frwd dros gyfathrebu hanes i gynulleidfa gyhoeddus eang, ac rwyf wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Llafur, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru a Golygydd Llafur: Cylchgrawn Hanes Pobl Cymru. Rwy'n aelod gweithgar o'r Gymdeithas Astudio Hanes Llafur.

 

Cyhoeddiad

2023

2022

2020

2017

2016

2011

2010

Articles

Book sections

Books

Thesis

Ymchwil

 

Rwyf wedi cyhoeddi llyfrau am y berthynas rhwng Cymru a sosialaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif ac, mewn cydweithrediad â’r Athro Nick Mansfield, am hanes materol a gweledol y mudiad llafur Prydeinig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar gasgliad o ffynonellau yn ymwneud â gwleidyddiaeth Cymru o’r 1870au i’r 1920au, a fydd yn cael eu cyhoeddi gan Routledge yn ddiweddarach yn 2025.

Gwelaf hanes y mudiadau llafur, sosialaidd a radical fel rhan annatod o'n cymdeithas, ac fel ffenestr hynod ddiddorol  er mwyn edrych ar hanes. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng syniadau cyffredinol (fel sosialaeth) a mudiadau gwleidyddol a chymdeithasol mwy lleol.

Addysgu

Rwy'n addysgu'n eang ar draws y cwricwlwm hanes.

Ym mlwyddyn un, rwy'n addysgu ac yn cynnull Dyfeisio Cenedl: Treftadaeth, Diwylliant a Gwleidyddiaeth. Rwyf hefyd yn cyfrannu seminarau i Hanes ar Waith.

Ym mlwyddyn dau, rwy'n dysgu ar Wleidyddiaeth a'r Bobl ym Mhrydain Fodern, ac yn goruchwylio myfyrwyr ar Ddadlau Hanes. Rwyf hefyd yn cyfrannu at Chwyldro, Diwylliant a Radicaliaeth, 1789-1914.

Ym mlwyddyn tri, rwy'n dysgu The Making of British Sosialism, ac yn goruchwylio myfyrwyr traethawd hir.

Ar lefel MA, rwy’n cyfrannu at Ddarllen Hanes Cymru, yn ogystal â goruchwylio traethodau hir.

Bywgraffiad

Astudiais ar gyfer fy ngradd gyntaf ym Mhrifysgol Cymru (Llanbedr Pont Steffan), lle graddiais gyda BA (Anrh.) ym 1987 ac M. Phil (ar gyfer traethawd ymchwil ar Sosialaeth Brydeinig ddiwedd Oes Fictoria) ym 1992. O 1994 hyd 2004, bûm yn gweithio ym myd addysg i oedolion, yng Nghanolfan Addysg Barhaus, Aberystwyth. Dysgais hanes o bob math mewn nifer o leoliadau yng nghanolbarth Cymru. O 1997 hyd 2004 bûm yn Weinyddwr, ac wedyn Rheolwr y Ganolfan, gan gymryd cyfrifoldeb am reoli rhaglen eang o addysg i oedolion dros ganolbarth Cymru. Wedi hynny, bûm yn gweithio fel ymchwilydd ym Mhrifysgol Huddersfield ac yn athrawes Cymraeg i Oedolion yng Ngheredigion, cyn dychwelyd i yrfa ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ym 2007. Cwblheais fy PhD, ar y mudiad sosialaidd yng Nghymru yn y cyfnod Fictoraidd hwyr ac Edwardaidd, ym 2011, a chefais fy mhenodi’n Ddarlithydd Hanes yng Nghaerdydd yn 2011. Ar hyn o bryd, rwyf yn Uwch-ddarlithydd yn Hanes, gyda chyfrifoldeb dros ddysgu trwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg.

Aelodaethau proffesiynol

 

Golygydd, Llafur: The Journal of Welsh People's History

 

Ymrwymiadau siarad cyhoeddus

Array

Meysydd goruchwyliaeth

Rwyf wedi goruchwylio doethuriaethau yn llwyddiannus mewn amrywiaeth o feysydd. Ymhlith y graddau PhD diweddar a gwblhawyd o dan fy ngoruchwyliaeth mae astudiaeth o wleidyddiaeth Sir Fynwy ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, astudiaeth o effaith Deddf Newydd y Tlodion 1834 yng Nghymru, astudiaeth o weinyddwr prifysgol o ddiwedd oes Fictoria, Viriamu Jones, ac astudiaeth o newid amgylcheddol yn Sir Fynwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Ar hyn o bryd rwy’n goruchwylio prosiect PhD ar ymddangosiad a natur y dosbarth canol yn Aberpennar ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.

Rwy’n agored i drafodaethau am oruchwyliaeth doethuriaethau ym maes hanes modern Prydain a Chymru (h.y. o’r 1780au hyd heddiw). Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn goruchwylio doethuriaethau ar unrhyw agwedd y mudiadau radical, sosialaidd a dosbarth gweithiol.

Goruchwyliaeth gyfredol

Jeremy Morgan

Jeremy Morgan

Prosiectau'r gorffennol

Mae PhD a gwblhawyd yn ddiweddar yn cynnwys:

James Phillips, o Diwylliant i Draddodiad: Tirwedd Wleidyddol Sir Fynwy, 1918-1929 (2020)

William Christophides, John Viriamu Jones ac Delfrydiaeth Gymreig (2023)

Liam Burke, Y Gyfraith Dlawd yng Nghymru (2023)

Phillip Allsopp, Searching for the Metabolic Rift in NIneteenth Century Monmouthshire (2024)

Contact Details

Themâu ymchwil

Arbenigeddau

  • 19eg ganrif
  • 20fed ganrif