Ewch i’r prif gynnwys
Oliver Wright  BSc (Hons)  AMRSC

Mr Oliver Wright

(e/fe)

BSc (Hons) AMRSC

Ymchwilydd PhD

Ysgol Cemeg

cymraeg
Siarad Cymraeg

Ymchwil

Mae ymchwil cyfredol Oliver yn canolbwyntio a'r defnydd o gatalysis heterogenaidd ar gyfer uwchraddio biomas i gemegau gwerth uchel, gan ddefnyddio technegau thermo- ac electrocatalysis.

 

 

Bywgraffiad

Enillodd Oliver ei BSc mewn Cemeg gyda Phrofiad Diwydiannol yn 2022 o Brifysgol Bangor, gan gael ei enwebu a’i roi ar restr fer am Wobr fawreddog i Raddedigion Salters. Yn 2020, ymgymerodd â lleoliad diwydiannol blwyddyn o hyd, gan ymgymryd â swydd technegydd ymchwil ar gyfer y Ganolfan Biogyfansoddion, a leolir ym Mhrifysgol Bangor, yn bennaf yn cynnal ymchwil i allyriadau cyfansoddion organig anweddol (VOC) o ddeunyddiau adeiladu naturiol. Yn ei brosiect ymchwil blwyddyn olaf, arbenigodd yn synthesis cyflawn organocatalyddion asid amino cymesurol sy'n deillio o amidau. Ers mis Hydref 2022, mae Oliver wedi bod yn ymgymryd ag astudiaethau PhD yng Nghanolfan Max Planck-Caerdydd ar Hanfodion Catalysis Heterogenaidd FUNCAT yn Sefydliad Catalysis Caerdydd, dan oruchwyliaeth yr Athro Graham Hutchings a'r Athro Stuart Taylor.

Aelodaethau proffesiynol

Aelod Cysylltiol y Gymdeithas Frenhinol Cemeg

Contact Details

Email WrightOT@caerdydd.ac.uk

Campuses Y Ganolfan Ymchwil Drosiadol, Llawr 5, Heol Maindy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ

Themâu ymchwil

Arbenigeddau

  • catalysis heterogenaidd
  • Uwchraddio Biomas
  • Aur
  • Electrocemeg
  • Storio a thrawsnewid ynni electrocemegol