Trosolwyg
Rwy'n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig sydd â diddordeb mewn sut rydym yn datgarboneiddio ein systemau ynni, gyda diddordeb arbennig yn rôl bosibl cynllunio ynni lleol.
Roedd fy astudiaeth flaenorol yn cynnwys gradd israddedig mewn gwyddor amgylcheddol a gradd meistr mewn dulliau ymchwil gwyddorau cymdeithasol, gyda fy nhraethawd hir yn edrych ar y gwersi a ddysgwyd o gynlluniau ynni ardal leol wrth i awdurdodau lleol anelu at gyrraedd targedau sero net cenedlaethol.
Ymchwil
Cynlluniau Ynni Ardal Leol: Opsiwn hyfyw i helpu i gyflawni sero-net?
Mae diddordeb gennyf mewn edrych ar sut mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi llunio a defnyddio eu cynlluniau ynni ardal leol. Cynhyrchwyd y cynlluniau mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a'u hariannu ganddynt, fel rhan allweddol o ddull Cymru o gyflawni sero-net. Fodd bynnag, wrth i'r cynlluniau hyn symud i'w cam gweithredu, mae cwestiynau'n codi am y ffactorau a allai fod yn drech na chwmpas cyfieithu'r cynlluniau hyn yn gamau gweithredu. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys sgiliau technegol o fewn awdurdodau lleol, cyllid sydd ar gael i gynhyrchu a gweithredu prosiectau ynni newydd, a'r pwerau sydd gan awdurdodau i weithredu ar systemau ynni lleol.
Bywgraffiad
Fy ngyrfa academaidd yn gryno:
Queen Mary, Prifysgol Llundain: BSc Gwyddor yr Amgylchedd (2020-2023)
Prifysgol Caerdydd: MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (2023-2024)
Ar wahân i fy astudiaethau prifysgol, rwyf wedi chwarae criced lled-broffesiynol yn cynrychioli Gwlad yr Haf2il XI (2019) a Swydd Buckingham (2018-2023).
Mae fy ymchwil yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Goruchwylwyr
Richard Cowell
Athro Polisi a Chynllunio Amgylcheddol, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi
Oleg Golubchikov
Athro Daearyddiaeth Ddynol, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig