Mrs Natalie Forde-Leaves
Uwch Ddatblygwr Addysg
Trosolwyg
Cyfrifoldebau’r rôl
A minnau’n Uwch Ddatblygwr Addysg gyda’r Gwasanaeth Datblygu Addysg, rwy’n cyfrannu at y gwaith o wella dysgu, addysgu a phrofiad dysgu myfyrwyr drwy arwain a chydlynu gweithgareddau a mentrau a gynlluniwyd i gefnogi’r gwaith o adolygu ac (ail)ddylunio’r cwricwlwm a’i gyflwyno.
Gwaith allweddol/arbenigeddau
Gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion ar draws ystod eang o themâu sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm, gydag arbenigedd penodol mewn Asesu ac Adborth, i ddatblygu cwricwla o ansawdd rhagorol sy'n gynhwysol, yn ennyn diddordeb ac yn rhoi’r myfyriwr yn gyntaf.
Ffrwd Waith Arwain 3 'Data a Tthystiolaeth' prosiect y Gwasanaeth Datblygu Addysg (EDS). Mae hyn yn golygu defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddylunio a gwella rhaglenni.
Aelod o Ffrwd Waith 2 'Cynnwys ac adnoddau' ar gyfer y prosiect EDS, sy'n cynnwys datblygu adnoddau i arwain a chefnogi timau datblygu rhaglenni ysgolion.
Cyhoeddiad
2023
- Forde-Leaves, N., Walton, J. and Tann, K. 2023. A framework for understanding assessment practice in higher education. Assessment & Evaluation in Higher Education 48(8), pp. 1076-1091. (10.1080/02602938.2023.2169659)
Erthyglau
- Forde-Leaves, N., Walton, J. and Tann, K. 2023. A framework for understanding assessment practice in higher education. Assessment & Evaluation in Higher Education 48(8), pp. 1076-1091. (10.1080/02602938.2023.2169659)
Ymchwil
- Forde-Leaves, N. (2022). Disciplines and assessment culture: Academic’s perceptions of assessment. Sustainably assessing the unbridled pursuit of truth or ‘teach to the test’ knowledge factory? #sellingyoursoulfora2:1. Cynhadledd Ryngwladol Asesu yn maes Addysg Uwch 22-24 Mehefin
- Forde-Leaves, NE Smith, RR Rosier, E., Ou, Z. (2022). Putting Accounting Assessment to the TEST-A. Cynhadledd Addysg Gyfrifeg BAFA 2022, Glasgow.
- Forde-Leaves, N. Walton, J. Tann, K. (2022). Operationalizing Shay’s (2016) curriculum model as the foundation for a Legitimation Code Theory (LCT) framework for assessment inquiry. Symposiwm Addysgu ym maes Addysg Uwch, Lerpwl.
- Forde-Leaves, N. (2022). Assessment as ‘Accounting’ for a transactional education: Academic’s perceptions of consumerism and assessment. Cynhadledd Cymdeithas Cyfrifeg a Chyllid Prydain, Nottingham.
- Forde-Leaves, N. 2021. Autonomy and assessment culture: Students as partners or products of ‘teach to the test’ knowledge factory? #sellingyoursoulfora2:1Symposiwm Asesu ac Adborth AdvanceHE 2021. Syn https://www.advance-he.ac.uk/sites/default/files/2021-10/Session%20Abstracts%20-%20Assessment%20and%20Feedback%20Symposium%202021.pdf
Bywgraffiad
Cyn ymuno â'r Academi Dysgu ac Addysgu ym mis Gorffennaf 2022, roedd Natalie Forde-Leaves yn Uwch Ddarlithydd yn Is-adran Cyfrifeg a Chyllid Ysgol Busnes Caerdydd. Bu Natalie hefyd mewn swydd Uwch Reolwr, sef yn Gyfarwyddwr Asesu ac Adborth yr Ysgol Busnes rhwng 2016-2019, yn cefnogi cydweithwyr i gyflawni'r Strategaeth Asesu ac Adborth Ysgolion.
Mae’n Gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) a chyn cael ei chyflogi’n academydd, gweithiodd Natalie mewn gwahanol sefydliadau megis Barclaycard, Lloyds Bank, Kaplan Financial Training a'r GIG.
Ymunodd Natalie ag Ysgol Busnes Caerdydd yn 2011 o Brifysgol Cymru, Casnewydd. Mae Natalie’n gyn-Lywydd Rhwydwaith ACCA De Cymru, ac mae wedi bod yn eiriolwr dros ACCA wrth gynnal achrediad a gwella cysylltiadau rhwng corff proffesiynol ACCA a'r Ysgol Busnes.
Mae diddordebau ymchwil presennol Natalie ym maes ymchwil addysgeg, yn canolbwyntio ar Asesu ac Adborth, yn benodol dylunio asesiadau, diwylliannau Asesu ac Asesu Cynaliadwy. Ar hyn o bryd mae Natalie yn cynnal Doethuriaeth Proffesiynol mewn Addysg gyda thraethawd ymchwil o'r enw: 'Diwylliannau Asesu ac Ymreolaeth' ( Autonomy and Assessment Cultures) ac mae'n gweithio tuag at Uwch Gymrodoriaeth Advance HE (SFHEA).