Ewch i’r prif gynnwys
Rhys Bevan-Jones

Dr Rhys Bevan-Jones

Uwch Gymrawd Ymchwil Glinigol, Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

Yr Ysgol Meddygaeth

cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Rwyf yn seiciatrydd ac ymchwilydd gyda’r Adran Plant a Phobl Ifanc, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol.

Rwyf â diddordeb mewn ymchwil a gwaith clinigol o blentyndod i fywyd oedolyn, ac anawsterau iechyd meddwl yn yr adeg drawsnewidiol allweddol yma. Rwyf wedi fy hyfforddi mewn seiciatreg ar gyfer plant/pobl ifanc ac oedolion. Rwyf hefyd a diddordeb yn rôl y cyfryngau gweledol a digidol yn y byd iechyd meddwl, ac wedi astudio darlunio a dylunio graffeg yn Central St Martins a Phrifysgol Kingston (Llundain).

Yn 2018, fe dderbyniais wobr o Gymrodoriaeth Ôl-Ddoethuriaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (SCYI) ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (YIGC) – i ddatblygu yn bellach rhaglen ddigidol ar gyfer iselder ym mhobl ifanc ac i arwain treial ohoni. Cafodd y rhaglen ei ddatblygu yn wreiddiol fel rhan o Gymrodoriaeth Ymchwil Doethurol SCYI/YIGC (2013-2017). Yn 2022, enillais y wobr 'Digital Innovation Award for Best Research on Digital Impact' gan yr 'Association for Child and Adolescent Mental Health' (ACAMH).Yn 2024, derbyniais 'Wobr Ymchwilydd sy'n Datblygu (Advancing Researcher Award)' gan YIGC i ddatblygu fy ngwaith ymhellach ym maes iechyd meddwl digidol a phontio (plant/glasoed i oedolion).

Rwyf hefyd yn gweithio ar brosiectau megis astudiaeth SWELL Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, yr astudiaeth i ragfynegi iselder ym mhobl ifanc (‘EPAD study’), astudiaeth PAMAd i werthuso gwasanaethau iechyd meddwl yn Georgia, rhwydwaith iechyd meddwl pobl ifanc TRIUMPH, a chyd-ddatblygiad adnoddau digidol ADHD. Rwy’n gynghorydd seiciatreg ar gyfer gwasanaeth cymorth iechyd meddwl Canopi ar gyfer staff y GIG a gofal cymdeithasol.

 

 

Cyhoeddiad

2024

2023

2022

2021

2020

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

Articles

Thesis

Contact Details

Email BevanJonesR1@caerdydd.ac.uk
Telephone +44 29206 88451
Campuses Adeilad Hadyn Ellis, Ystafell Ystafell 2.27, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ
Let's talk about ADHD

Let's talk about ADHD

06 November 2019