Trosolwyg
Cyfrifoldebau rôl
Gall fy rolau fel Cynorthwyydd Technoleg Dysgu yn y ganolfan, sy'n rhan o'r Tîm Addysg Ddigidol yn Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd, fod yn eithaf amrywiol, fodd bynnag, mae'n canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth ac arweiniad ar ddefnyddio systemau technoleg dysgu i gydweithwyr mewn Colegau, Ysgolion a Gwasanaethau Proffesiynol yn y Brifysgol.
Gwaith allweddol/arbenigeddau
- O ddydd i ddydd, rwy'n darparu cymorth ac yn helpu i ddatrys materion sy'n ymwneud ag addysg ddigidol a llwyfannau cysylltiedig
- Mewn cydweithrediad â chydweithwyr eraill yn y Tîm Addysg Ddigidol, rwy'n cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau sy'n ymwneud â chynnal adnoddau ar-lein ar gyfer staff academaidd a myfyrwyr sy'n gysylltiedig ag addysg ddigidol
- Rwy'n darparu cefnogaeth i staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol mewn Ysgolion a Cholegau i ddatblygu eu harbenigedd mewn addysg gyfun ac ar-lein
- Rwy'n cefnogi'r adran gyda mentrau dysgu wedi'u gwella gan dechnoleg a gwaith prosiect
Bywgraffiad
Ymunais â Phrifysgol Caerdydd yn 2011 fel Cynorthwyydd Llyfrgell rhan amser a phenwythnosau yng Ngwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol. Aeth fy ngyrfa yn ei flaen yn gyflym a deuthum yn Uwch Gynorthwy-ydd Llyfrgell/Cynorthwyydd Cymorth TG llawn amser a bûm yn gweithio yn bennaf yn un o'r safleoedd mwyaf ar Gampws Cathays – Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol am 8 mlynedd. Deuthum hefyd yn llyfrgellydd cymwysedig – derbyniais fy ngradd MA mewn Rheoli Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth drwy ddysgu o bell ym Mhrifysgol Sheffield.
Fe wnaeth fy mhrofiad, astudiaethau yn ogystal â diddordeb mewn llythrennedd digidol ac ochr TG darparu gwasanaethau o fewn gwasanaethau gwybodaeth fy helpu i gael fy rôl bresennol fel Technolegydd Dysgu.