Trosolwyg
Dechreuais weithio fel Cynorthwyydd Cymorth Academaidd ym mis Ionawr 2022. Rwy'n darparu cymorth amrywiol i'r gwasanaethau proffesiynol yn yr ysgol. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys nifer o ddyletswyddau gwahanol megis gweinyddu prosesau cyllid, prosesu marciau a gwaith gweinyddol cyffredinol sy'n ymwneud â modiwlau a chynorthwyo gyda threfnu digwyddiadau i fyfyrwyr. Rwyf hefyd yn bwynt cyswllt cyntaf i'r Ysgol, gan ymdrin ag amrywiaeth o gwsmeriaid mewnol ac allanol dros y ffôn, dros e-bost ac wyneb yn wyneb.
Bywgraffiad
Symudais o Sir Gaerfyrddin i Gaerdydd yn 2014 er mwyn dilyn gradd BA yn y Gymraeg yn y brifysgol. Wedi hynny, astudiais ar y cwrs MA Astudiaethau Celtaidd a Chymreig cyn cael swydd fel cyfieithydd. Dechreuais weithio yn Adran y Gymraeg yn 2022.
Contact Details
+44 29225 12046
Adeilad John Percival , Ystafell 1.55, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU