Mrs Lowri Davies
Cynllun Sabothol Cenedlaethol ar gyfer Rheolwr Hyfforddiant Iaith Gymraeg
- Siarad Cymraeg
Trosolwyg
Yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth, dechreuais fy nghyfnod yn Ysgol y Gymraeg yn 1999 fel myfyrwraig MA gan gwblhau traethawd MA yn ymchwilio i'r mentrau iaith yng Nghymru a'r modd yr hyrwyddir y Gymraeg yng nghymunedau Cymru. Yn dilyn hynny fe'm penodwyd yn diwtor ac yna yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg lle'r oeddwn yn gyfrifol am ddysgu a datblygu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr ail-iaith yr Ysgol. Rwyf bellach yn gweithio fel Rheolwr Prosiect y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg. Mae'r Cynllun Sabothol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig rhaglen o gyrsiau hyfforddiant iaith i ddarlithwyr, athrawon a chynorthwywyr dosbarth. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o dri lleoliad sy'n gyfrifol am ddarparu cyrsiau'r Cynllun Hyfforddiant iaith Gymraeg.
Addysgu
Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg:
*Modiwlau ar gyfer athrawon cynradd sy'n addysgu'r Gymraeg fel ail iaith
*Modiwlau ar gyfer dartlithwyr, athrawon uwchradd a chynradd a chynorthwywyr dysgu sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
*Cyrsiau ar gyfer cynorthwywyr dysgu ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg
*Cyrsiau ar gyfer cynorthwywyr dysgu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg