Miss Briony Goffin
Tiwtor Ysgrifennu Creadigol
Trosolwyg
Mae Briony yn awdur, athro a mentor. Mae hi wedi cyhoeddi'n eang ar y grefft o addysgu ysgrifennu creadigol a chefnogi'r myfyriwr i gyflawni ei botensial creadigol. Yn 2012, dyfarnwyd Tiwtor Ysbrydoledig y Flwyddyn iddi gan NIACE Dysgu Cymru. Yn 2014, siaradodd Briony ar bwnc Ysgrifennu fel Teyrnged i gynulleidfa fyd-eang ar gyfer TEDxCardiff. Mae Briony yn Aelod Proffesiynol o LAPIDUS a Chymdeithas Genedlaethol Awduron mewn Addysg.
Ymchwil
Rwyf wedi cyhoeddi'n eang ar y grefft o addysgu ysgrifennu creadigol a chefnogi'r awdur/myfyriwr sy'n dod i'r amlwg i gyflawni eu potensial creadigol. Rwy'n arbenigo mewn hwyluso gweithdai ar gyfer oedolion agored i niwed neu ar y cyrion, yn enwedig unigolion â phroblemau iechyd meddwl.
Ar hyn o bryd rwy'n cymryd rhan mewn prosiect 3 blynedd sy'n anelu at alluogi unigolion, trwy weithdai a chyfarfodydd un i un, i ysgrifennu eu profiadau uniongyrchol o Ysbyty Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.
Mae fy ngwaith ysgrifennu fy hun ar ffurf y traethawd telynegol, sy'n rhannu darnau, damcaniaethau hunangofiannol a myfyrdodau ar yr eiliadau a'r cyfarfyddiadau sy'n siapio ein byd.
Mae gen i ddiddordeb brwd hefyd mewn cysylltiadau rhyngddisgyblaethol rhwng ysgrifennu creadigol a ffurfiau celf eraill, yn enwedig y celfyddydau ffotograffig a chysyniadol.
Mae fy allbwn creadigol presennol yn archwilio prosesau a chanlyniadau cydberthnasau cydweithredol rhwng artistiaid ac yn mynd i'r afael â phosibiliadau ac anawsterau mynegiant amlgyfrwng.