Gwenfair Griffith
(hi/ei)
- Siarad Cymraeg
Timau a rolau for Gwenfair Griffith
Darlithydd (Addysgu ac Ysgolheictod)
Trosolwyg
Rwy'n newyddiadurwraig â phrofiad helaeth mewn sawl math o newyddiaduraeth ar ôl blynyddoedd o weithio ar newyddion dyddiol a hefyd ar faterion cyfoes i'r BBC, ITV ac S4C yng Nghymru ac ABC News a SBS World yn Awstralia.
Mae gen i ddiddordeb mawr ym mhrofiadau gohebwyr wrth eu gwaith a chafodd fy nghyfres radio i'r BBC, Fy Stori Fawr, ei gyhoeddi ar ffurf llyfr gan wasg y Lolfa yn 2023.
Rwy'n ymddiddori hefyd mewn newyddiaduraeth ddigidol a dyfodol newyddiaduraeth Gymraeg, cyfathrebu clir, y grefft o ddweud straeon mewn sawl cyfrwng yn ogystal â mentora newyddiadurwyr y dyfodol.
Ymchwil
Sbia ar Hwn - https://www.porth.ac.uk/en/collection/sbia-ar-hwn
Rwyf hefyd yn ymddiddori ym mhrofiadau gohebu newyddiadurwyr, cynhyrchwyr a chriwiau camera ac yn dogfennu profiadau newyddiadurwyr profiadol.
https://www.ylolfa.com/products/9781800993785/fy-stori-fawr
Addysgu
Rwy'n dysgu ar y cwrs MA Newyddiaduraeth Rhyngwladol ac ar y cwrs gradd is-raddedig, Palu am y Gwir ac Ystafell Newyddion.
Bywgraffiad
Newyddiaduraeth yw fy niddordeb mawr ers i mi astudio'r pwnc fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Ryerson, Toronto.
Bellach, mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad yn y maes. Ar ôl symud o weithio fel gohebydd ar newyddion dyddiol i BBC Cymru, i gynhyrchu ar y ddesg dramor ar gyfer ABC News yn Sydney a gweithio gyda’r tîm newyddion ar-lein yn SBS World, bues i'n cynhyrchu rhaglenni dogfen teledu a radio fel cynhyrchydd llawrydd nôl yng Nghymru.
Mae’r rhan fwyaf o’m rhaglenni dogfen teledu wedi bod yn rhaglenni mynediad anodd, yn rhaglenni trosedd 'true crime' neu’n rhaglenni materion cyfoes. Enillodd fy rhaglen ddogfen i a'r cyflwynydd Lena Mohammed, Islam, Cymru a Ni, wobr Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Sain y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru 2025. Cafodd rhaglen nes i gynhyrchu a chyfarwyddo am effaith camwybodaeth yn ystod y pandemig, Covid, y Jab a Ni, ei enwebu am BAFTA Cymru yn 2022. Yn yr un flwyddyn, cyrhaeddais y rhestr fer yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru fel Newyddiadurwr Arbenigol y Flwyddyn am fy ngwaith ar raglen materion crefyddol BBC Radio Cymru, Bwrw Golwg. Mae gen i hefyd brofiad o newyddiaduraeth ymchwiliol gyda thîm gwych o newyddiadurwyr ar Y Byd ar Bedwar, ITV Cymru.
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn dysgu mwy am brofiadau gohebwyr wrth eu gwaith, ac mae fy nghyfresi radio Fy Stori Fawr ar BBC Radio Cymru wedi’u cyhoeddi fel dau lyfr gan wasg Y Lolfa yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Mae gen i hefyd ddiddordeb mawr mewn gohebu ar leiafrifoedd, ac roeddwn i wrth fy modd yn cyflwyno a gohebu ar gyfer rhaglen materion crefyddol BBC Radio Cymru, Bwrw Golwg, hyd at haf 2024. Rwy’n dal i weithio fel newyddiadurwr pan fo’r amser yn caniatáu, ond ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o’m hamser yn cael ei dreulio yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr.
Ar ôl dwy flynedd o arwain modiwl darlledu MA Newyddiaduraeth Ryngwladol JOMEC, rwy'n dychwelyd i addysgu israddedigion ar fodiwl Intro to Broadcasting, Yr Ystafell Newyddion a modiwl cyfryngau cymdeithasol newydd sbon.
Sicrhau bod fy myfyrwyr yn cael profiad rhagorol yn ystod eu hamser gyda ni ym Mhrifysgol Caerdydd yw fy mlaenoriaeth, ac rwy’n edrych ymlaen at fy rôl newydd fel arweinydd 'Profiad Myfyrwyr' yn JOMEC.
Safleoedd academaidd blaenorol
Arweinydd Profiad Myfyrwyr Ysgol JOMEC
Contact Details
Themâu ymchwil
Arbenigeddau
- Newyddiaduraeth Gymraeg
- Rhaglenni dogfen
- Adrodd
- Adrodd Stori Ffeithiol