Trosolwyg
Mae Sally Griffith yn Gynhyrchydd Ymchwil a Datblygu yn media.cymru, ac mae'n arwain ar Sgiliau, Newyddion a chreu rhaglen ariannu decach a mwy cynhwysol ar gyfer y sector cyfryngau yng Nghymru. Mae media.cymru yn gonsortiwm gwerth £50 miliwn â 23 o bartneriaid a ariennir gan UKRI, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i hybu arloesedd yn y sector cyfryngau cynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru.
Ar ôl gweithio ym maes arloesedd y cyfryngau yn Clwstwr ac addysg arddangosfeydd sinema a ffilm am dros 25 mlynedd, mae Sally’n dod â chynulleidfaoedd, diwydiant, academia a chymunedau ynghyd i greu mannau ysbrydoledig, hygyrch a chroesawgar, a fydd o fudd i bawb. Mae Sally wedi hyrwyddo ffilm yng Nghymru, gan sefydlu ac arwain y rhaglen ariannu a datblygu Canolfan Ffilm Cymru BFI yn ystod ei chyfnod fel Cyfarwyddwr Sinema yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, gan gefnogi dros 200 o leoliadau annibynnol ledled y wlad i greu profiadau sinematig safle-benodol o fewn lleoliadau, gwyliau a digwyddiadau arbennig. Gan arwain y fenter Inclusive Cinema ar gyfer y DU, helpodd Sally leoliadau ledled y DU i ddod i ddeall dementia a dod yn fwy cynhwysol i dalent a chynulleidfaoedd. Ar ôl cyfarwyddo mentrau ledled y DU, gan gynnwys BFI Gothic: The Dark Heart Of Film (2013) Roald Dahl On Film (2016) ac Anim18: A Celebration of British Animation (2018), gweithiodd Sally gyda Somerset House ar eu rhaglen Summer Screen Film4 (2018).
Mae Sally yn hyfforddwr proffesiynol cymwysedig ac yn aelod o Grŵp Cynghori Gŵyl Animeiddio Caerdydd.
Cyhoeddiad
2022
- Fodor, M. M., Griffith, S., Alatise, O., Komorowski, M., Pepper, S., Lewis, J. and Lupu, R. 2022. CLWSTWR POLICY BRIEF No 5: innovation for an inclusive and diverse media sector: the role of r&d in Wales: findings from CLWSTWR. Cardiff University, Cardiff School of Journalism, Media and Cultural Studies. Available at: https://cris.vub.be/en/publications/clwstwr-policy-brief-no-5-innovation-for-an-inclusive-and-diverse-media-sector(f88310f1-6dc1-48ff-a5bb-7dd2227fb460).html
2021
- Komorowski, M., Griffith, S. and Alatise, L. 2021. Clwstwr Programme Report: Diversity Monitoring Report 1. Available at: https://clwstwr.org.uk/sites/default/files/2021-08/Clwstwr%20Programme%20Diversity%20Monitoring%20Report%201_Final_compressed.pdf
Monograffau