Ewch i’r prif gynnwys
Lisa Hurt

Dr Lisa Hurt

Senior Lecturer

Yr Ysgol Meddygaeth

Email
HurtL@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29206 87807
Campuses
Neuadd Meirionnydd, Ystafell 6ed Llawr, Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4YS
cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Rwy’n uwch-ddarlithydd yn Is-Adran Meddygaeth y Boblogaeth yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Yn y swydd hon, rwy'n gwneud ymchwil â ffocws ar wella iechyd a lles plant drwy gasglu data o’r newydd a defnyddio chofnodion gofal iechyd ac addysg sydd ar gael yng Nghymru. Mae gen i brofiad helaeth mewn ymchwil iechyd byd-eang, ac rwyf wedi dylunio, reoli a dadansoddi nifer o astudiaethau epidemiolegol cymhleth mewn gwledydd adnodd isel i ddeal a gwella iechyd mamau a phlant.

Rwy'n dysgu epidemioleg a’r defnydd o dystiolaeth mewn meddygaeth i fyfyrwyr ar y raglen feddygol C21, y radd ymsang BSc mewn Iechyd y Boblogaeth, a'r gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus.

Rwy'n arwain ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn yr Is-adran, ac rwyf newydd arwain prosiect i ddatblygu hyfforddiant ac arweiniad i reolwyr llinell yn y Brifysgol ar addasiadau rhesymol ar gyfer staff. Mae hyn wedi arwain at ddiddordeb ymchwil newydd ewn datblygu ymyriadau effeithiol i gefnogi staff niwroamrywiol.

Fi yw cynrychiolydd yr Ysgol Meddygaeth ar Rwydwaith Ymchwil y Brifysgol ar Iechyd Blanedol. Ar hyn o bryd, rwy’n arwain ar gyfranogiad y cyhoedd ar gais amlddisgyblaethol i archwilio effeithiau tymheredd ar iechyd ac i ddatblygu addasiadau a mesurau lliniaru (gyda fy ffocws i ar feichiogrwydd a iechyd plant).

Cyhoeddiad

2024

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2010

Cynadleddau

Erthyglau

Monograffau

Ymchwil

Mae fy mhrosiectau presennol yn cynnwys:

  • Astudiaeth Mamau a Babanod Cymru

Mae’r astudiaeth garfan hon yng Nghymru yn edrych i weld a oes cysylltiad rhwng rhai o’r canlyniadau a welir ar sganiau uwchsain yn ystod beichiogrwydd (a elwir yn "nodwyr") a phroblemau iechyd yn ystod plentyndod. I gasglu gwybodaeth ddilynol ar y mamau a’u plant, rydym yn defnyddio holiaduron a chofnodion iechyd ac addysg sydd ar gael yng Nghymru.

  • Ymchwil ar farwolaethau a defnydd gofal iechyd mewn plant â Syndrom Down yn ystod y pum mlynedd gyntaf o fywyd

Mae’r astudiaeth hon yn cymharu gwybodaeth o Gymru a’r Alban. Rydym yn defnyddio data o Garfan Plant Electronig Cymru, e-garfan sy’n cysylltu gwybodaeth ddemograffig, iechyd ac addysg a gesglir yn rheolaidd yng Nghymu.

  • Cyd-ymgeisydd ar y grant sy’n ariannu Canolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru)

Trwy hyn, hoffwn ddatblygu prosiectau i archwilio a yw'n bosibl i ddilyn canlyniadau addysgol ac iechyd mewn plant ag awtistiaeth ac aelodau o’u teuluoedd gan ddefnyddio’r data sydd ar gael yn barod yng Nghymru. Bydd hyn yn creu ffynhonnell o ddata epidemiolegol i lywio datblygiad gwasanaethau iechyd ac addysg i gefnogi teuluoedd a lleihau anghydraddoldeb.

Yn fy ngwaith blaenorol yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, roeddwn yn gyd-ymgeisydd ar brosiect “Alliance for Maternal and Newborn Health Improvement” (AMANHI, 2012-2016), astudiaeth garfan aml-wlad sy'n ymchwilio i iechyd mamau a babanod mewn 11 gwlad incwm isel gan ddefnyddio dulliau cyson ar draws y gwledydd. Cafodd y gwaith ei ariannu gan Sefydliad Elusenol Bill and Melinda Gates a’i drefnu gan Gyfundrefn Iechyd y Byd (WHO). Arweiniais yr uwch dîm rheoli ar gyfer y treial “ObaapaVitA” yn Ghana (treial i astudio effeithiau fitamin A ar farwolaethau yn ystod beichiogrwydd), yn goruchwylio gwaith tua 350 o staff maes a chymorth. Goruchwyliais hefyd dîm rheoli'r treial “Neovita” (treial i astudio effeithiau fitamin A ar farwolaethau mewn babanod yn y flwyddyn gyntaf o’u bywyd), oedd ag aelodau mewn pum lleoliad gwahanol ar draws y byd. Cyfrannodd y ddau dreial ddata i adolygiad Cochrane ar rhoi fitamin A yn ystod beichiogrwydd (McCauley et al 2015). Seiliwyd argymhellion WHO 2016 ar ddefnyddio fitamin A mewn gofal cyn geni ar yr adolygiad hyn. Fel rhan o’r gwaith hwn, rhoddais briffiau rheolaidd i Adran Datblygu Rhyngwladol y DU a'r Weinyddiaeth Iechyd yn Ghana, ac ymgysylltu â grwp datblygu canllawiau WHO, i’w hysbysu o’r canlyniadau a llywio eu hargymhellion.

Addysgu

Rwy'n dysgu epidemioleg a’r defnydd o dystiolaeth mewn meddygaeth i fyfyrwyr ar raglen feddygol C21 a'r gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Sesiynau defnyddio tystiolaeth mewn meddygaeth i fyfyrwyr meddygol Blwyddyn 3

Darlithio a rhedeg sesiynau trafod mewn grwpiau bach

  • Trefnu sesiynau hunan-ddewis i fyfyrwyr meddygol Blwyddyn 1

Cynllunio a threfnu, rhedeg sesiynau trafod mewn grwpiau bach, darparu adborth ffurfiannol, ac asesu prosiect adolygu llenyddiaeth ar ffyrdd o gefnogi rhieni a phlant yn y blynyddoedd cynnar

  • Trefnu sesiynau hunan-ddewis i fyfyrwyr meddygol Blwyddyn 2, 3 a 4

Cynllunio a threfnu, rhedeg sesiynau trafod mewn grwpiau bach, ac asesu prosiectau ymchwil gan y myfyrwyr

  • Bod yn diwtor personol i fyfyrwyr meddygol (yn cynnwys myfyrwyr sydd wedi derbyn ysgoloriaeth y Coleg Cenedlaethol ac sy’n dilyn rhai agweddau o’r cwrs yn Gymraeg)
  • Dysgu ar y cwrs gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus

Goruchwylio ac asesu prosiectau traethawd hir, a mynychu cyfarfodydd bwrdd arholiadau

  • Goruchwylio myfyrwyr PhD
  • Aelodaeth o baneli adolygu ymchwil ôl-raddedig
  • Bod yn oruchwyliwr academaidd i gofrestryddion iechyd cyhoeddus

External profiles