Ewch i’r prif gynnwys
Owain Huw  BSc (Hons) SFHEA

Owain Huw

BSc (Hons) SFHEA

Rheolwr Dysgu Digidol

cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Cyfrifoldebau rôl

Rwy’n Rheolwr Dysgu Digidol yn yr Academi Dysgu ac Addysgu gyda chyfrifoldeb am arwain prosiectau a mentrau strategol gan gynnwys dau brosiect ar draws y Brifysgol o fewn y portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr (2021-24) – fel Arweinydd Busnes ar gyfer y prosiect Amgylchedd Dysgu Digidol a oedd yn cynnwys cyflwyno Blackboard Ultra Courses; ac fel un o’r Arweinwyr Busnes ar gyfer y prosiect Dysgu Hyblyg a ystyriodd gyfeiriad strategol y Brifysgol i ddysgu hyblyg. Uwch Gymrawd Addysg Uwch (SFHEA) ac Uwch Gymrawd Addysg Prifysgol Caerdydd.

Gwaith allweddol/arbenigedd

  • Arwain prosiectau a mentrau strategol ar draws y Brifysgol
  • Rheoli'r berthynas strategol gyda FutureLearn a datblygiad cyrsiau byr a microgredydau
  • Partner Ysgol yr Academi Dysgu ac Addysgu ar gyfer yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Bywgraffiad

Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad mewn arwain a rheoli prosiectau TG strategol, dysgu digidol, a chyfrifiadura ymchwil o fewn y sector prifysgolion. Ymunais â Phrifysgol Caerdydd yn 2016 fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer Uwchgyfrifiadura Cymru – rhaglen fuddsoddi gwerth £16 miliwn, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru – i roi mynediad i dimau ymchwil prifysgolion at gyfleusterau cyfrifiadura pwerus. Cyn hynny, bûm yn arwain y gwaith o ddatblygu portffolio o wasanaethau dysgu digidol cyfrwng Cymraeg cenedlaethol yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – gan gynnwys amgylchedd dysgu rhithwir cenedlaethol cyntaf Cymru, 'Y Porth'.

Ymunais ag Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd yn 2020, ac fel aelod o'r tîm Addysg Ddigidol, rwy’n gyfrifol am arwain a chefnogi cyfres o brosiectau a mentrau sefydliadol cyfan.

Contact Details