Ewch i’r prif gynnwys
Elen Ifan

Dr Elen Ifan

(Mae hi'n)

Darlithydd

Ysgol y Gymraeg

cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Mae fy mhrif ddiddordeb ymchwil yn ymwneud â'r berthynas rhwng llenyddiaeth a chyfryngau eraill, gan gynnwys llenyddiaeth a cherddoriaeth, y cyfryngau poblogaidd, a'r cyfryngau cymdeithasol. Mae gen i ddiddordeb hefyd ym maes cyfieithu, yn arbennig yng nghyd-destun gweithiau sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth.

Ers cwblhau PhD ar berthynas gwaith T. Gwynn Jones â cherddoriaeth, rydw i wedi cyhoeddi ar gyfieithiadau caneuon mewn gwahanol gyd-destunau yn ogystal â'r maes cerddo-lenyddol.

Rwyf hefyd yn gyd-olygydd Llên Cymru gyda fy nghydweithwyr yn Ysgol y Gymraeg, ac wedi ymddangos ar BBC Radio Cymru a BBC Radio 3 yn trafod fy ngwaith ymchwil.

Diddordebau ymchwil yn cynnwys:

  • Llenyddiaeth a cherddoriaeth
  • Llenyddiaeth a'r cyfryngau poblogaidd
  • Llenyddiaeth a'r cyfryngau cymdeithasol
  • Llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif
  • Cyfieithu llenyddol a cherddorol

Cyhoeddiad

2023

2022

2021

2020

2017

2015

Articles

Book sections

Ymchwil

Addysgu

Rwy'n arwain ar ac yn cyfrannu at amrywiaeth o fodiwlau israddedig ac uwchraddedig yn Ysgol y Gymraeg.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Modiwlau llenyddol BA ac MA
  • Modiwl Cyflogadwyedd BA Ysgol y Gymraeg
  • Modiwlau'r llwybr ail iaith
  • Goruwchwylio traethodau hir israddedig

Bywgraffiad

Graddiais mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg o Brifysgol Bangor yn 2011, cyn parhau gyda fy astudiaethau gyda gradd MA ar berthynas gwaith y bardd Gwyn Thomas â cherddoriaeth yn Ysgol y Gymraeg. Cwblheais thesis PhD ym Mangor yn 2017, yn astudio'r berthynas rhwng gwaith T. Gwynn Jones a cherddoriaeth. Treuliais semester fel Cymrawd yn Ymweld yn Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard yn 2013. 

Yn dilyn cyfnod yn gweithio ym myd radio fel Ymchwilydd a Chynhyrchydd Cynorthwyol yn BBC Radio Cymru a Radio Wales, ymunais ag Ysgol y Gymraeg fel Darlithydd ym mis Medi 2019.

Aelodaethau proffesiynol

Aelod o'r International Association for Word and Music Studies (2020-presennol)

Aelod o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2022-presennol)