Mr Jordan Lloyd
Technolegydd Dysgu
Trosolwyg
Cyfrifoldebau’r rôl
Fel Cynorthwyydd Technoleg Dysgu, mae fy rôl yn hynod amrywiol. Rwy’n gweithio’n bennaf i’r hwb cymorth yn rhan o’r Tîm Addysg Ddigidol yn academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd, yn cynnig cymorth ac arweiniad ar ddefnyddio systemau technoleg dysgu i gydweithwyr ar draws holl Golegau, Ysgolion a Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol. Ar ben hynny, rwy'n gweithio gyda chydweithwyr yn yr academi ac ar draws y brifysgol, gan weithredu a chefnogi ystod o brosiectau/mentrau dysgu drwy gyfrwng technoleg a gynlluniwyd i wella profiad dysgu'r myfyrwyr.
Gwaith allweddol/Arbenigeddau
- O ddydd i ddydd rwy'n rhoi cymorth ac yn cefnogi pobl i ddatrys materion sy'n ymwneud ag addysg ddigidol a llwyfannau cysylltiedig
- Mewn cydweithrediad â chydweithwyr eraill yn y Tîm Addysg Ddigidol, rwy’n cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau sy’n ymwneud â chynnal adnoddau ar-lein ar gyfer staff academaidd a myfyrwyr sy’n ymwneud ag addysg ddigidol
- Rwy’n darparu cymorth i staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol mewn Ysgolion a Cholegau i ddatblygu eu harbenigedd mewn addysg gyfunol ac ar-lein
- Rwy'n cefnogi'r adran gyda mentrau dysgu â chymorth technoleg a gwaith prosiect
- Defnyddio HTML a CSS i greu adnoddau XERTE uwch
- Gwybodaeth arbenigol mewn Meddalwedd GEOPL ac ARCHI gan gynnwys SketchUp Pro, ArcGIS, DigiMaps ac Adobe Suite. Rwy'n cynnal gweithdai gyda myfyrwyr a sesiynau galw heibio i gynnig cymorth technegol ar y pecynnau hyn.
- Creu adnoddau, canllawiau a deunyddiau ar-lein o ansawdd uchel sy'n hygyrch, sy'n diwallu anghenion staff a/neu fyfyrwyr academaidd ac yn dangos arferion gorau mewn dysgu â chymorth technoleg
Bywgraffiad
Ymunais â Phrifysgol Caerdydd yn 2017 fel Swyddog Asesiadau ac Achosion Myfyrwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Yn y rôl hon, dysgais lawer iawn am ymarfer academaidd ac addysgeg ac am anghenion myfyrwyr a phrofiad cyffredinol myfyrwyr hefyd. Yn ystod fy amser yn HCARE, roeddwn yn gweithio ar feddalwedd addysg uwch fel Learning Central, SIMS a Business Objects yn ogystal â defnyddio pecynnau Microsoft Office i greu adnoddau. Rhoddodd y rôl hon fewnwelediad gwych i mi ar addysg ddigidol yn y Brifysgol a chaniatáu i mi ddatblygu sgiliau technoleg dysgu allweddol.
Ym mis Rhagfyr 2018, fe ddechreuais weithio fel swyddog prosiect ar gyfer y Cyflymydd Arloesedd Data (DIA) yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd. Roedd y prosiect yn fenter a arweiniwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) gyda'r nod o ddarparu cymorth gwyddor data i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) yn rhanbarth Dwyrain Cymru. Cefais gyfle yno i ddatblygu sgiliau codio yn ogystal â pharhau i weithio gydag academyddion i archwilio anghenion addysgu.
Mae fy mhrofiad, fy nghymwysterau a’m diddordeb mewn addysg ddigidol a chreu adnoddau wedi fy ngalluogi i gael fy rôl bresennol fel Technolegydd Dysgu.