Ewch i’r prif gynnwys
Rhiannon Marks  BA (Wales), MSt (Oxon), PhD (Wales), FHEA

Dr Rhiannon Marks

(hi/ei)

BA (Wales), MSt (Oxon), PhD (Wales), FHEA

cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Timau a rolau for Rhiannon Marks

  • Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

    Ysgol y Gymraeg

Trosolwyg

Rwy'n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg lle rwy'n arbenigo mewn llenyddiaeth Gymraeg yr 20fed a'r 21ain ganrif, beirniadaeth lenyddol greadigol a theori lenyddol.

Enillodd fy monograff cyntaf 'Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr: golwg ar waith Menna Elfyn' (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013) Wobr Syr Ellis Griffith gan Brifysgol Cymru yn 2015. Mae'n gyfrol arbrofol o feirniadaeth lenyddol greadigol sy'n cynnig dehongliadau damcaniaethol amrywiol o waith y bardd Cymraeg, Menna Elfyn. Dyma'r astudiaeth estynedig gyntaf o waith Menna Elfyn ac mae hefyd yn archwilio materion megis cyfieithu, perfformio a marchnata llenyddiaeth yn y Gymru gyfoes.

Mae fy monograff diweddaraf Y Dychymyg Ôl-Fodern: agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru, 2020) yn rhoi darlleniad beirniadol greadigol o ffuglen fer ôl-fodern yr awdur Cymraeg, Mihangel Morgan. Rhoddir sylw arbennig i archwilio agweddau ar hunaniaeth yn y ffuglen yn ogystal â goblygiadau ôl-foderniaeth yng nghyd-destun diwylliant iaith leiafrifol. 

Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar brosiect AHRC a ariennir gan IAA, 'Darllen Hunaniaethau' ar addysgeg yn yr ystafell ddosbarth llenyddiaeth yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r prosiect yn cynnwys gweithio gydag athrawon Cymraeg mewn Ysgolion Uwchradd i gyd-gynhyrchu adnoddau addysgol a fydd yn hwyluso'r drafodaeth ar hunaniaethau mewn testunau llenyddol yn yr ystafell ddosbarth.

 

Diddordebau ymchwil:

  • Llenyddiaeth Gymraeg Gyfoes
  • Theori Lenyddol a Beirniadol
  • Beirniadaeth Greadigol
  • Astudiaethau Rhyw a Rhywioldeb
  • Cyfieithiad Llenyddol

Cyhoeddiad

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2013

Adrannau llyfrau

Arall

Erthyglau

Gwefannau

Llyfrau

Ymchwil

Ymchwil

Mae fy niddordeb mewn llenyddiaeth gan fenywod yn parhau yn fy ymchwil presennol. Yn sgil taith ymchwil i'r Ariannin yn ystod Haf 2013 o dan nawdd banc Santander, rwy'n ymchwilio i waith y bardd o Batagonia, Irma Hughes de Jones.

Rwyf hefyd yn bwriadu cyfuno fy niddordeb mewn theori lenyddol a llenyddiaeth gyfoes mewn astudiaeth ar ddatblygiadau ym maes y stori fer ôl-fodernaidd.

 

Addysgu

Rwy'n addysgu (neu wedi dysgu) ar nifer o fodiwlau ar y rhaglen BA yn y Gymraeg, gan gynnwys: 

  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Sgiliau Astudio Llenyddiaeth
  • Mapio'r Cymry
  • Herio'r Traddodiad Llenyddol
  • Sgiliau Academaidd Uwch
  • Theori a Beirniadaeth Lenyddol (arweinydd modiwl)
  • Rhyddiaith Ddiweddar (arweinydd modiwl)
  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Rwy'n Gyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir yn Ysgol y Gymraeg ac rwy'n arwain y modiwlau canlynol ar y rhaglen MA mewn Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd:

  • Ymchwil Academaidd a Phroffesiynol
  • Archwilio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd
  • Pwnc Arbenigol
  • Prosiect Estynedig 

Bywgraffiad

Addysg a Chymwysterau

2014 - Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu a Dysgu Prifysgol, Prifysgol Caerdydd

2011 - PhD, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth (wedi'i hariannu gan Ysgoloriaeth PhD Prifysgol Aberystwyth ac Ysgoloriaeth Mair Waldo)

2007 - MSt Astudiaethau Menywod, Prifysgol Rhydychen (ariannwyd gan Ysgoloriaeth Meyricke Coleg Iesu)

2006 - BA Cymraeg, Prifysgol Aberystwyth (mae gwobrau israddedig yn cynnwys Ysgoloriaeth Syr T. H. Parry-Williams, Gwobr T. E. Nicholas, Gwobr Syr Goronwy Daniel, Gwobr yr Athro Thomas Jones ac Ysgoloriaeth Cynddelw).

 

 

Anrhydeddau a dyfarniadau

  • 2015 - Gwobr Syr Ellis Griffith Prifysgol Cymru (gwobrwywyd ar gyfer Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr Monograph )
  • 2008 - Aelod Anrhydeddus Gorsedd Cymru
  • 2007 - Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007 ar gyfer ysgrifennu creadigol

Aelodaethau proffesiynol

  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
  • Darlithydd Cyswllt, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Safleoedd academaidd blaenorol

Swyddi Academaidd

  • 2020 - presennol: Uwch Ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
  • 2012 - 2020: Darlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
  • 2011 - 2012: Tiwtor yn Ysgol y Gymraeg a Thiwtor ar Gynllun Sabothol Cenedlaethol Cymru
  • 2007 - 2011: Cynorthwy-ydd Addysgu Ôl-raddedig, Prifysgol Aberystwyth

Safleoedd Ymweld

  • Chwefror 2018-Mawrth 2018: Ysgolhaig Gwadd KU Leuven

Pwyllgorau ac adolygu

  • Golygydd Cymraeg Cyfres Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru, Gwasg Prifysgol Cymru (2016 - presennol)
  • Cyd-olygydd y cylchgrawn llenyddol Cymraeg, Llên Cymru (2015 - presennol)
  • Aelod o Fwrdd Golygyddol Trafodion y Harvard Celtic Colloquium (2023-presennol)
  • Adolygydd ar gyfer cylchgrawn academaidd Gwerddon 
  • Adolygydd Gwasg Prifysgol Cymru
  • Cyd-olygydd Tu Chwith Literary Publication (2011-13)

Meysydd goruchwyliaeth

Myfyrwyr Ymchwil

Byddwn yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ymchwil sy'n dymuno dilyn y meysydd ymchwil canlynol:

  • Llenyddiaeth Gymraeg yr 20-21ain ganrif
  • Ysgrifennu Creadigol Beirniadol (gweithiau sy'n archwilio'r ffiniau rhwng ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol)
  • Theori Lenyddol a Beirniadol (yn enwedig damcaniaethau sy'n ymwneud â rhyw, rhywioldeb a hunaniaeth genedlaethol)
  • Cyfieithiad Llenyddol
  • Addysgeg Llenyddiaeth

 

Goruchwyliaeth gyfredol

Eirian Lewis

Eirian Lewis

Contact Details

Email MarksR@caerdydd.ac.uk
Telephone +44 29208 75594
Campuses Adeilad John Percival , Ystafell Ystafell 1.67, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Arbenigeddau

  • Llenyddiaeth Gymraeg
  • Damcaniaeth lenyddol
  • Astudiaethau Menywod a Rhyw
  • 20 - 21ain ganrif
  • Diwylliant, cynrychiolaeth a hunaniaeth