Ewch i’r prif gynnwys
Sonia Maurer

Ms Sonia Maurer

Technolegydd Dysgu

cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Cyfrifoldebau rôl

Fel Technolegydd Dysgu, rwy'n ymwneud ag ystod eang o ddysgu ac addysgu, gan gynnwys dylunio a chynllunio gweithgareddau a rhaglenni mewn partneriaeth ag academyddion, cynhyrchu deunyddiau cymorth a darparu hyfforddiant penodol. Yn fy rôl fel Partner Addysg Ddigidol ar gyfer yr Ysgol Ddeintyddol, rwy'n gweithio'n strategol gyda chydweithwyr i wella ansawdd y ddarpariaeth ddigidol ar gyfer staff a myfyrwyr. Yn ddiweddar rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r Ysgol Optometreg i gefnogi staff wrth symud i Blackboard Ultra. Rwy'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA).

Gwaith allweddol:

  • Dylunio a chyflwyno rhaglenni ar-lein
  • Hyfforddiant staff
  • Datblygu adnoddau cymorth
  • Cefnogaeth i gyflwyno Blackboard Ultra
  • Datblygiad microcredential FutureLearn-Caerdydd
  • Hanesyddiaeth ddigidol

Bywgraffiad

Roeddwn ymhlith y genhedlaeth gyntaf o Dechnolegwyr Dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwyf wedi profi esblygiad y proffesiwn dros y blynyddoedd. Fy swydd gyntaf oedd yn yr adran Dermatoleg, lle bûm yn allweddol yn natblygiad rhai cyrsiau a phrosiectau dysgu o bell arloesol gan gynnwys addysgu histopatholeg ar-lein a ffrydio llawfeddygaeth Dermatoleg yn fyw. Symudais yn ddiweddarach i'r tîm Technoleg Dysgu canolog yn yr Ysgol Feddygaeth lle gwnes i barhau i ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn gweithio fel Partner Ysgol Addysg Ddigidol ar gyfer yr Ysgol Ddeintyddol a Phartner Ultra ar gyfer yr Ysgol Optometreg.

Mewn bywyd blaenorol rwyf wedi chwarae'r fiola yng ngherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd.

Contact Details