Ewch i’r prif gynnwys

Ann McManus

Swyddog Dylunio'r Cwricwlwm

Trosolwyg

Cyfrifoldebau’r rôl

Fel Swyddog Cynllunio'r Cwricwlwm rwy'n gyfrifol am gefnogi staff academaidd gyda gwaith cynllunio a datblygu'r cwricwlwm, yn ogystal â gweithio ar nifer o brosiectau academaidd. Mae hyn yn golygu cydweithio â'n partneriaid academaidd i wella profiad dysgu myfyrwyr a chreu adnoddau a systemau sy'n cefnogi staff academaidd yn eu rôl.

Gwaith allweddol/arbenigeddau

  • Cyfrannu at ddylunio modiwlau a rhaglenni sy'n golygu cydweithio â chydweithwyr academaidd i wneud yn siŵr bod rhaglenni astudio yn berthnasol ac yn arloesol ac yn bodloni safonau sicrhau ansawdd.
  • Arweinydd Busnes ar gyfer Cymorth Personol – mae'r prosiect hwn yn cynnwys gwella Cynllun Tiwtora Personol y Brifysgol, archwilio prosiect Dadansoddeg Ddysgu, yn ogystal â chymorth gan gymheiriaid.
  • Arweinydd yr Academi ar gyfer Rhannu Myfyriol – mae'r darn hwn o waith yn cynnwys adolygu arfer cyfredol a chreu systemau ac adnoddau newydd i gefnogi staff academaidd i gymryd rhan lawn mewn rhannu myfyriol ar lefel yr ysgol a'r sefydliad.
  • Gweithio ar brosiectau academaidd ychwanegol wrth iddynt godi.

Bywgraffiad

Dros y 30 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweithio mewn amryw o rolau ym maes addysg; addysgu, tiwtora personol, a rhedeg cynllun myfyrwyr sy’n mentora Prifysgol Caerdydd am 10 mlynedd (y cynllun myfyrwyr sy’n mentora gwirfoddol mwyaf yng Nghymru!). Fe wnes i hefyd sefydlu a rheoli Gwasanaeth Sgiliau Astudio Academaidd y Brifysgol. Yn 2015, cefais y wobr Gwella Profiad Myfyrwyr yn Eithriadol ar y cyd, ac yn 2021 enillais y wobr am Gyfraniad Eithriadol i’r Brifysgol.


Yn barod am her newydd, ymunais â'r Academi ym mis Tachwedd 2021 fel rhan o’r tîm Cynllunio'r Cwricwlwm. Fy rôl i yw cefnogi staff, ac yn y pen draw, y profiad dysgu myfyrwyr, drwy gynllunio'r cwricwlwm a phrosiectau academaidd yn effeithiol. Fel tîm, rydym i gyd yn gweithio ar hyn o bryd i gyflawni Is-Strategaethau Addysg a Myfyrwyr y Ffordd Ymlaen. Yn ogystal â gweithio ar gynllunio'r cwricwlwm, rwy'n cymryd rhan mewn prosiect i wella cynllun adolygu cymheiriaid y Brifysgol ar gyfer staff. Rwyf hefyd yn Arweinydd Busnes ar gyfer cynllun peilot y Brifysgol ar Gefnogaeth Bersonol sy'n ceisio gwella profiad dysgu myfyrwyr drwy ddatblygu a chefnogi ein Gwasanaeth Tiwtora Personol, Dadansoddeg Ddysgu a Chymorth Cymheiriaid.

Contact Details