Ela Pari Huws
Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau
- Siarad Cymraeg
Trosolwyg
Mae fy rôl yn rhan o'r Tîm Cyfathrebu Mewnol Staff a'r Academi Dysgu ac Addysgu. Rwy'n rheoli ac yn datblygu strategaeth gyfathrebu'r Academi LT ac yn cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth, i staff ar ddigwyddiadau a chyfathrebu. Rwy'n arwain ar gyflwyno'r Cylchlythyr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr misol a chylchlythyr tîm yr Academi Dysgu ac Addysgu. Rwy'n rhedeg y cyfrif Twitter @LTAcademyCU , yn cydlynu Blog yr Academi Dysgu ac Addysgu, ac yn creu cynnwys ar gyfer Blas, ein cylchlythyr wythnosol i bob staff.
Rwy'n gweithio gydag aelodau o staff ar draws yr Academi LT i hyrwyddo ein Rhaglen DPP flynyddol o ddigwyddiadau ar-lein ac yn bersonol, a'n Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.
Rwyf hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yng nghangen Academi Gymraeg y Brifysgol a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gyfleu eu gweithgarwch i staff.
Bywgraffiad
Ymunais â Phrifysgol Caerdydd fel Swyddog Digwyddiadau a Chyfathrebu ym mis Ionawr 2024, ar ôl pedair blynedd yn gweithio yn sector y celfyddydau fel Swyddog Creadigol a Chyfathrebu Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth.
Astudiais ym Mhrifysgol St Andrews yn yr Alban rhwng 2015-2019, gan raddio gyda gradd MA(Anrhydedd) mewn Anthropoleg Gymdeithasol.
Contact Details
34 Park Place, Cathays, Caerdydd, CF10 3BA
Tŷ McKenzie, Ystafell Floor 6, 30-36 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0DE