Ewch i’r prif gynnwys
Ed Poole

Dr Ed Poole

Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

cymraeg
Siarad Cymraeg
Comment
Sylwebydd y cyfryngau
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Amdanaf fi:

Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ydw i, lle rwy'n addysgu Gwleidyddiaeth Diriogaethol. Mae fy niddordebau ymchwil yn ymwneud â gwleidyddiaeth cenhedloedd Ewropeaidd hanesyddol, datganoli cyllidol, ac ymatebolrwydd y llywodraeth mewn systemau gwleidyddol aml-lefel. Cwblheais fy ngradd doethuriaeth mewn Gwyddor Wleidyddol yn Ysgol Economeg Llundain (LSE).

Derbyniais radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus ym Mhrifysgol Pennsylvania ac yna gweithiais mewn nifer o swyddi yn ymwneud â materion cyllidol yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys gweithio i dalaith Pennsylvania fel cynghorydd arbennig i ddau ysgrifennydd cyllideb yng nghabinet y Llywodraethwr Edward G. Rendell.

Cyhoeddiad

2024

2023

2022

2021

2020

2019

2016

Articles

Book sections

Monographs

Addysgu

Addysgu 2024-25

Gwleidyddiaeth Cymru Fodern - myfyrwyr 2il flwyddyn

Economi Wleidyddol - myfyrwyr 3ydd flwyddyn 

Gwleidyddiaeth Cymru Gyfoes: Ymddygiad Gwleidyddol a Materion Cyfoes - myfyrwyr meistr

 

Bywgraffiad

Addysg a Chymwysterau

2017: PhD mewn Gwyddoniaeth Wleidyddol, Ysgol Economeg Llundain. Teitl: "Essays on the Political Economy of Decentralization"

2016: PgCUTL: Ôl-raddedig mewn Addysgu a Dysgu yn y Brifysgol (PgCUTL) (Cymrawd yr Academi Addysg Uwch), Prifysgol Caerdydd

2013: CBAC: Ysgrifennu Graenus, rhan o Dystysgrif mewn Hyfedredd Iaith: Defnyddio’r Gymraeg.

2013: PGCertHE: Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Associate Level), Ysgol Economeg Llundain

2011: MRes mewn Gwyddoniaeth Wleidyddol (Ffrwd Mesurol), Ysgol Economeg Llundain

2004: MGA (Master of Government Administration), Prifysgol Pennsylvania, Fels Institute of Government

1999: BSc Llywodraeth (Gradd Dosbarth Cyntaf), Ysgol Economeg Llundain

Trosolwg Gyrfa

2014-presennol: Darlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd

2012-13: Cynorthwy-ydd Addysgu Ôl-raddedig, Ysgol Economeg Llundain

2006-10: Ymgynghorydd Arbennig i Ysgrifennydd y Gyllideb, Swyddfa Cyllideb y Llywodraethwr, Talaith Pennsylvania, Harrisburg, PA

2004-06: Ymgynghorydd Cyllideb, Public Financial Management, Inc., Philadelphia, PA

Anrhydeddau a dyfarniadau

Cynghorwr Arbenigol i’r Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2018)

'Pencampwr Addysg Gymraeg', Gwobr Cyfoethogi Bywydau Myfyrwyr Caerdydd (2016)

Safleoedd academaidd blaenorol

Cynorthwy-ydd Ymchwil, Adran y Llywodraeth, Ysgol Economeg Llundain

Pwyllgorau ac adolygu

Adolygydd cylchgrawn: Regional and Federal Studies, British Journal of Politics and International Relations, Public Administration.