Ewch i’r prif gynnwys
Iwan Rees  BA, MPhil, PhD, FHEA

Dr Iwan Rees

BA, MPhil, PhD, FHEA

Uwch-ddarlithydd
Addysgu ac ymchwil

Ysgol y Gymraeg

Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Mae fy niddordebau ymchwil yn cwmpasu sawl maes ieithyddol, gan gynnwys:

  • Tafodieitheg ddaearyddol a chymdeithasol;
  • Amrywio seinegol a ffonolegol;
  • Pedagogeg iaith (yn enwedig yng Nghymru ac ym Mhatagonia);
  • Gramadeg y Gymraeg (gan gynnwys amrywiadau lleol);
  • Datblygiad hanesyddol y Gymraeg a’i hysgolheictod.

Ymunais ag Ysgol y Gymraeg yn 2012 fel Cydymaith Ymchwil ar brosiect a ganolbwyntiai ar anawsterau ynganu dysgwyr ym maes Cymraeg i Oedolion (CiO). Rwyf bellach yn Ddarlithydd yn yr Ysgol ers 2014 ac yn Gyfarwyddwr ar Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America.

Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, derbyniais nawdd oddi wrth yr AHRC a’m galluogodd i gwblhau traethawd doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar amrywio ffonolegol mewn dwy dafodiaith benodol yng nghanolbarth Cymru.

Mae ffenomen cyffyrddiad tafodieithol, sef canlyniadau ieithyddol cymysgu tafodieithol, wastad wedi bod o ddiddordeb neilltuol imi. Yn ogystal â chyhoeddi erthyglau ac adnoddau ar natur y trawsnewid ieithyddol graddol a geir yng nghanolbarth Cymru rhwng prif amrywiadau’r Gymraeg, h.y. rhwng Cymraeg y gogledd a Chymraeg y de, rwyf hefyd yn gweithio ar brosiect sy’n canolbwyntio ar ddatblygiadau tafodieithol (hanesyddol a chyfredol) yng Nghymraeg y Wladfa ym Mhatagonia. Diddordeb cysylltiedig arall yw datblygiad tafodieithoedd Cymraeg newydd yng Nghymru a rôl y system addysg yn eu ffurfiant.

Cyhoeddiad

2024

2023

2022

2021

2020

  • Morris, J., Rees, I. W. and Prys, M. 2020. Amrywio. In: Cooper, S. and Arman, L. eds. Cyflwyniad i Ieithyddiaeth. Caerfyrddin: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, pp. 139-180.

2019

2018

2017

2016

2015

2013

2012

2011

2010

Adrannau llyfrau

Erthyglau

Gosodiad

Gwefannau

Llyfrau

Ymchwil

Datblygiadau tafodieithol yng Nghymraeg y Wladfa ym Mhatagonia

Ar sail gwaith maes cychwynnol (o dan nawdd banc Santander a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) mewn dwy ardal ym Mhatagonia, sef Dyffryn Camwy a Godre’r Andes, rwyf wrthi’n gweithio ar brosiect sy’n canolbwyntio ar ddatblygiadau tafodieithol (hanesyddol a chyfredol) yng Nghymraeg y Wladfa.

Un o brif amcanion y prosiect hwn yw sefydlu sut yn union yr ymffurfiodd tafodiaith newydd yn y Wladfa o ganlyniad i gyffyrddiad rhwng gwahanol amrywiadau tafodieithol o Gymru a, thrwy hynny, herio rhai dadansoddiadau blaenorol o ffurfiant amrywiadau trefedigaethol eraill ar draws y byd. Amcan arall yw archwilio rhai o ganlyniadau cyffyrddiad ieithoedd, h.y. dylanwad y Sbaeneg ar y Gymraeg, gan ystyried goblygiadau’r newidiadau a welir ar waith heddiw rhwng gwahanol genedlaethau o siaradwyr i ddulliau ac adnoddau dysgu Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Nhalaith Chubut.

Cyflwyno tafodieithoedd y Gymraeg i actorion a sgriptwyr

Yn sgil ennill grant oddi wrth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rwyf wedi creu adnodd sydd â’r nod o gyflwyno tafodieithoedd y Gymraeg i actorion a sgriptwyr yn bennaf. Mae Cyflwyno Tafodieithoedd y Gymraeg: Canllawiau i Actorion a Sgriptwyr yn cynnwys nifer o glipiau sain a chlyweledol (ar Lwyfan Adnoddau’r Coleg Cymraeg), ynghyd â chanllawiau manwl, a fydd yn galluogi myfyrwyr o wahanol gefndiroedd, nid yn unig i ymgyfarwyddo ag amrywiadau tafodieithol hen a newydd, ond i’w defnyddio yn ymarferol. Mae’r adnodd hwn wedi arwain at wahoddiadau i gydweithio ag ystod eang o gyrff allanol ar amryfal brosiectau, e.e. Theatr Genedlaethol Cymru, BBC Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn ogystal â sawl awdur ffuglen adnabyddus. Bûm hefyd yn cynnal sawl dosbarth meistr i actorion ar y cyd â’r hyfforddwraig a’r actores brofiadol Rhian Morgan.

Caffael y Gymraeg fel ail iaith

Yn sgil arwain prosiect ar gaffael y Gymraeg fel ail iaith, cyhoeddais erthygl yn ddiweddar (ar y cyd â Dr Jonathan Morris) ar safbwyntiau tiwtoriaid ar anawsterau ynganu dysgwyr yn y sector Cymraeg i Oedolion. Mae nifer o argymhellion yr erthygl hon wrthi’n cael eu rhoi ar waith gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol newydd.

Addysgu

BA Cymraeg

    • CY1600 Iaith ac Ystyr (Arweinydd)
    • CY1602 Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
    • CY2450/CY3450 Tafodieitheg (Arweinydd)
    • CY3750 Cyfieithu Proffesiynol (Arweinydd)
    • CY2700/CY3700 Sgriptio
    • CY3900 Blas ar Ymchwil
    • CY3905 Ymchwilio Estynedig

MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd

    • CYD400 Ymchwilio Academaidd a Phroffesiynol
    • CYD401 Pwnc Arbennig 1
    • CYD402 Pwnc Arbennig 2
    • CYD403 Prosiect Ymchwil Estynedig

Bywgraffiad

Aelodaethau proffesiynol

  • Aelod o fwrdd Cynllun yr Iaith Gymraeg (Talaith Chubut) British Council Cymru
  • Aelod o Fforwm Prosiect Ynganu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Cymrawd o’r Academi Addysg Uwch

Gwasanaeth presennol i'r Ysgol

  • Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America
  • Cadeirydd y Bwrdd Arholi a Swyddog Cwynion
  • Cyfarwyddwr Derbyn a Recriwtio
  • Swyddog Llyfrgell

Meysydd goruchwyliaeth

Goruchwyliaeth gyfredol

Jack Pulman-slater

Jack Pulman-slater

Myfyriwr ymchwil